Hyfforddiant 3 awr am ddim ar asesu a chynllunio gofal

Oes gennych chi anabledd dysgu?

Ydych chi eisiau gwybod beth ydy eich hawliau a sut i gymryd rhan yn eich asesiadau ac mewn cynllunio eich gofal?

Yn 2016 roedd yna ddeddf newydd o’r enw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae yna reolau newydd am sut y dylai awdurdodau lleol asesu pobl ar gyfer gofal a chefnogaeth, gwneud a darparu cynlluniau gofal yn dilyn asesiad.

Beth ydy’r hyfforddiant ?

Mae’r dysgu yn rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cyflwyniad, trafodaeth a gwaith grŵp.

  • Gwneud i chi feddwl am gyda beth rydych chi eisiau help.
  • Gwneud i chi feddwl am ‘beth sydd yn bwysig’ i chi.
  • Beth i’w wneud os ydych chi angen gofal a chefnogaeth.
  • Eich Asesiad.
  • Beth ydy llesiant.
  • Sut i gymryd rhan.
  • Gyda beth y gallwch gael help.
  • Eich Cynllun Gofal a Chefnogaeth.
  • Eich Adolygiad.
  • ‘Cerdyn Post o’r dyfodol’.
  • Cwis i weld beth rydych chi wedi ei ddysgu.

Ar gyfer pwy mae’r hyfforddiant?

Os ydych yn rhan o grŵp neu gorff gall yr hyfforddwyr ddod i’ch swyddfa a hyfforddi grŵp o bobl.
Mae croeso i chi ddod â’ch gofalwr teulu neu gefnogwr gyda chi os ydych eisiau.

Pwy ydy’r hyfforddwyr?

Mae gennym ni hyfforddwyr profiadol i roi’r hyfforddiant, ac mae gan rai ohonyn nhw anabledd dysgu eu hunain.

Pa ddeunyddiau sydd ar gael?

  • Fe fyddwch yn cael llyfr gwaith hyfforddi i’w ddefnyddio ac i’w gadw.
  • Mae gwaith grŵp yn cynnwys defnyddio lluniau a labeli gludiog.
  • Fe fyddwch yn cael llyfryn hawdd ei ddeall ar asesu a chynllunio gofal.

Diddordeb?

Cysylltwch gyda Inacia ar 029 2068 1160 inacia.rodrigues@ldw.org.uk

Diweddariad: Mehefin 2019. Mae’r hyffordiant am ddim bellach wedi’i gymryd. Rydym yn parhau i allu cynnig hyfforddiant am gost rhesymol i chi neu i’ch grwp. Holwch os gwelwch yn dda.