Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu ar gyfer 2022-2026. Mae Grace Krause, swyddog polisi Anabledd Dysgu Cymru yn cyflwyno ein barn ar y cynllun, a ddatblygwyd ar y cyd gyda’r Grŵo Cynghori’r Gweinidog ar Anabledd Dysgu (LMDAG), sydd yn disodli’r Rhaglen Gwella Bywydau.

Mae gan y cynllun gweithredu 9 o brif flaenoriaethau:

  1. Rhychwantu a thrawsbleidiol – yn cynnwys gweithgaredd traws lywodraeth na fydd efallai yn eistedd mewn un maes penodol
  2. Adfer o COVID
  3. Iechyd – yn cynnwys anghyfartaleddau iechyd a marwolaethau y gellir eu hosgoi
  4. Gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol
  5. Hwyluso byw’n annibynnol a mynediad i wasanaethau drwy ragor o fynediad i sgiliau eiriolaeth a hunaneiriolaeth, ymgysylltu a chydweithredu
  6. Addysg yn cynnwys gwasanaethau plant a phobl ifanc
  7. Cyflogaeth a sgiliau
  8. Tai – tai priodol, agos i gartref, mynediad i wasanaethau cydgysylltiedig
  9. Trafnidiaeth

Gallwch ddarllen Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu, yn cynnwys fersiwn hawdd ei ddeall, ar wefan Llywodraeth Cymru

Beth rydym yn ei feddwl o’r cynllun newydd?

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn hapus i weld Cynllun Gweithredu Anabledd Dysgu newydd sydd â’r nod o wneud gwahaniaeth i fywydau pobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru. Rydym yn arbennig o hapus i weld ymrwymiad i weithredu  argymhellion gan yr adolygiad 2020 o Wasanaethau Arbenigol Oedolion “Gwella  Gofal, Gwella Bywydau, Uned Comnisiynu Cydweithredol Cenedlaethol” (PDF), yn ogystal ag ymrwymiad i gyflawni gwaddol gweithrediadau iechyd o’r  Rhaglen Gwella Bywydau.

Rydym yn falch hefyd o weld ffocws ar gefnogi rhieni gydag anabledd dysgu gan fod hwn yn grŵp sydd yn aml heb gefnogaeth priodol. Rydym yn gwerthfawrogi’r ffocws cryf ar ganoli llais pobl gydag anabledd dysgu yn y cynigion hyn, er enghraifft drwy weithio gyda LDMAG a phartneriaid eraill i benderyfnu ar y blaenoriaethau ar gyfer gweithredu ar gyfer ymagwedfd strategol wedi’i adnewyddu  tuag at lesiant a thrwy weithio gyda rhanddeiliaid i archwilio ac adolygu dewisiadau ar gyfer cefnogaeth eiriolaeth

Rydym yn cytuno gyda’r ffocws cryf ar gydgynhyrchu o ran y Cynllun Adfer Covid, yn ogystal â chynlluniau i edrych ar y posibilrwydd o sefydlu Arsyllfa Anabledd Cenedlaethol i Gymru i gefnogi datblygiad corff cynhwysfawr o dystiolaeth a fydd yn llywio gwneud penderfyniadau a chynllunio gwasanaethau.

Mae’n newyddion da bod cyflogaeth i bobl gydag anabledd yn cael ei weld yn flaenoriaeth ac edrychwn ymlaen at helpu i lunio hyn gyda’r wybodaeth rydym wedi ei gael drwy’r prosiect Engage to Change. Hefyd mae nifer o fesurau yn y cyhnllun sydd â’r potensial o wella bywydau o ddydd i ddydd pobl gydag anabledd dysgu. Mae hyn yn cynnwys edrych ar y potensial o ddarparu canllaw a chyngor o ran cyfeillgarwch a pherthnasoedd rhywiol i bobl gydag anabledd dysgu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi egluro bod y Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu yn ‘ddogfen fyw’ y gellir ei newid a’i datblygu dros amser. Mae wedi’i dylunio hefyd i fod yn gyfuniad gyda chynllun cyflenwi sydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd

Mae angen rhagor o fanylion

Tra ein bod yn credu bod gan y cynllun hwn botensial i wneud gwahaniaeth sylweddol i bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru, rydym yn edrych ymlaen at weld rhagor o wybodaeth manwl yn y cynllun cyflenwi sydd yn esbonio sut y mae Llywodraethy Cymru yn bwriadu cyflawni ei nodau. Rydym hefyd eisiau  gweld esboniad o’r nodau ac iddyn nhw fod yn fwy uchelgeisiol yn eu nodau fel y bydd yn gwneud gwahaniaeth mwy sylweddol i fywydau pobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru.

Mae sawl rhan o’r cynllun yn cynnwys ymarferiadau cwmpasu sydd yn archwilio rhai mesurau. Hoffem wled canlyniadau’r ymarferion cwmpasu yma yn cael eu trosi yn ymrwymiadau cyflenwi gwirioneddol cyn gynted â phosibl

Mae pobl gydag anabledd dysgu yn wynebu anfanteision sylweddol yng Nghymru ac mae’r pandemig wedi gwneud yr anghyfartaleddau yma yn waeth. Fe fyddem felly wedi hoffi gweld canlyniadau mwy cadarn o ran sut mae effaith y cynllun yn mynd i gael ei fesur a’i adolygu. Hoffem hefyd weld costau i sicrhau y bydd y mesurau yn y cynllun yn cael eu cyllido yn ddigpnol.

Rydym yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru, y Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anabledd Dysgu a’n haelodau ar weithrediad y cynllun gweithredu newydd, Fe fyddwn hefyd yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid a rhanddeiliaid i fonitro’r effaith y mae ganddo ar fywydau pobl gydag anabledd dysgu a’u teuluoedd yng Nghymru.