Os ydych wedi ymrwymo i’n gwerthoedd ac mae gennych brofiad byw neu broffesiynol, yna gallai hyn fod yn gyfle cyffrous i chi.
Mae gennym 1 swydd wag ar ein Bwrdd Ymddiriedolwyr ar gyfer cynrychiolwyr o:
- Sefydliad darparwyr cymorth i deuluoedd
neu
- Sefydliad cyflogaeth â chymorth.
Rydyn ni yn arbennig o awyddus i glywed gennych os ydych chi yn:
- person ag anabledd dysgu
a / neu
- person o’r mwyafrif byd-eang.
Os ydych chi’n credu y gallai fod angen cymorth arnoch i fod yn ymddiriedolwr, gallwn helpu drwy sicrhau eich bod yn cael eich cefnogi i baratoi ar gyfer cyfarfodydd fel y gallwch gymryd rhan yn llawn.
Am fwy o wybodaeth gweler isod:
Disgrifiad Swydd Ymddiriedolwr
Cynllun Strategol Anabledd Dysgu Cymru
Adroddiad Blynyddol Anabledd Dysgu Cymru
Sut i wneud cais:
Ffurflen Gais Ymddiriedolwyr 2025 – 2028
Os oes angen help neu fwy o wybodaeth arnoch, ffoniwch Joanne Moore ar 029 20681160 neu e-bostiwch joanne.moore@ldw.org.uk.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 15 Hydref 2025
Etholiadau’r Ymddiriedolwyr: Bydd ymddiriedolwyr newydd yn cael eu dewis gan ein haelodau yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) ar 23 Hydref 2025.
Os hoffech fynychu ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, llenwch y Ffurflen Archebu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol erbyn 15 Hydref 2025.