Rhan o’n prosiect Pobl yr 21ain Ganrif, ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae rhieni ag anabledd dysgu a’u plant yn profi gwahaniaethu ac anfantais sylweddol.  Er bod arfer cadarnhaol sefydliedig wrth gefnogi’r rhieni hyn, mae’r darpariaeth yn dal i fod yn wael.

Bygythir yr arfer da sy’n bodoli gan yr hinsawdd ariannol presennol, diffyg ystyriaeth o anghenion rhieni mewn polisi a diffyg ymwybyddiaeth gan bobl proffesiynol o anghenion cymorth penodol rhieni ag anabledd dysgu.  Mae’r holl ffactorau hyn yn cyfrannu at ganran annerbyniol o uchel o deuluoedd y mae eu plant yn cael eu tynnu allan gan wasanaethau cymdeithasol lle mae un neu fwy o rieni ag anabledd dysgu.

Mam yn dal babi newydd-anedig

Rydyn ni’n anelu at newid y sefyllfa hon yng Nghymru trwy ddylanwadu ar ddatblygu a gweithredu’r ddeddfwriaeth briodol, polisïau ac arferion sydd, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn effeithio ar rieni ag anabledd dysgu.

Er mwyn cyflawni hyn, rydyn ni’n hwyluso cyfarfodydd rhwydwaith ledled Cymru ar gyfer rhieni a phobl proffesiynol er mwyn rhannu profiadau ac arferion da.  Hefyd rydyn ni’n hyrwyddo arfer positif a chodi ymwybyddiaeth o anghenion arbennig rhieni ag anabledd dysgu.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol i rieni a gweithwyr proffesiynol yn ein hadran Adnoddau o dan Rhieni ag anabledd dysgu.

Cliciwch yma i ymuno â’r rhwydwaith

Am fwy o wybodaeth am ein gwaith gyda rhieni ag anabledd dysgu, cysylltwch â’n Rheolwr Polisi a Chyfathrebu Sam Williams, ebost samantha.williams@ldw.org.uk.