Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi croesawu tri pherson newydd i’n tîm staff yn ddiweddar.  Dros y dyddiau nesaf, clywn ni oddi wrthyn nhw i gyd, gan ddechrau heddiw gyda Sam Williams, sydd wedi ailymuno â’n tîm fel Swyddog Cyfathrebu dros Engage to Change.

“Dw I’n llawn cyffro wrth fod yn ôl yn Anabledd Dysgu Cymru yn gweithio ar brosiect Engage to Change.  Dw i wedi gweithio mewn llawer o rolau cyfathrebu gwahanol a rolau polisïau yn Anabledd Dysgu Cymru yn y gorffennol ac dw i wir yn edrych ymlaen at weithio ar y prosiect pwysig hwn sy’n cefnogi pobl ifanc gydag anabledd dysgu ac/neu awtism rhwng 16 a 25 mlwydd oed i gael lleoliadau gwaith cyflogedig.

“Mae Engage to Change yn brosiect ledled Cymru sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol  mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.  Mae Anabledd Dysgu Cymru’n gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau cyflogaeth â chymorth Elite (yn Ne Cymru) ac Agoriad (yng Ngogledd Cymru), sefydliad hunaneiriolaeth Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a’r Ganolfan Genedlaethol dros Iechyd Meddwl (NCMH) ym Mhrifysgol Caerdydd er mwyn darparu prosiect Engage to Change.  Rydyn ni hefyd yn gweithio ar y cyd gyda’r rhaglen interniaethau rhyngwladol Engage to Change DFN Project SEARCH.

“Dw i’n frwd dros gydraddoldeb, amyrywiaeth a chynhwysiad.  Dw i’n credu bod gan bobl gydag anabledd dysgu yr hawl i gael llais a gwneud dewisiadau yn eu bywydau nhw, gan gynnwys cael swydd gyflogedig os byddan nhw eisiau.  Mae llawer o rwystrau a all ei gwneud hi’n anodd i bobl gydag anabledd dysgu i ffeindio a chadw gwaith cyflogaeth ond mae prosiect Engage to Change yn gweithio’n galed i newid hyn.  Gall bod mewn swydd gyflogedig gael effaith positif ar les pobl, nid yn unig yn ariannol ond yn emosiynol hefyd.  Gall hi roi hwb i annibyniaeth a hunan-barch yn o gystal â lleihau unigrwydd.

Fel Swyddog Cyfathrebu, gwneud yn siwr bod pobl yn gwybod am waith Engage to Change yw fy rôl i, er enghraifft y cefnogaeth ar gael i bobl ifanc, sut mae cyflogwyr yn gallu chwarae rhan, beth mae teuluoedd a gofalwyr yn meddwl am y prosiect a chanfyddiadau yr ymchwil a weithredir gan Brifysgol Cymru fel rhan o’r prosiect.  Dw i’n rheoli gwefan Engage to Change a sianeli cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â mynychu cyfarfodydd a digwyddiadau er mwyn rhannu gwybodaeth am y prosiect.

Dw i’n briod ac mae dau o blant gyda fi.  Tu allan i’r gwaith, dw i’n mwynhau darllen, dawnsio a threulio amser yn Sbaen gyda’m teulu,  Dw i’n dwli ar de prynhawn ac mae casgliad mawr iawn o esgidiau gyda fi!”