Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi croesawu tri pherson newydd i’n tîm staff yn ddiweddar.  Yr wythnos hon rydyn ni wedi bod yn clywed oddi wrthyn nhw i gyd, ac rydyn ni’n parhau heddiw gyda Taylor Florence, sydd yn gweithio ar ein timoedd hawdd ei darllen a gweinyddiaeth.

“Dw i mor falch o fod yn rhan o Anabledd Dysgu Cymru.  Dw i’n falch o weithio gyda chydweithwyr sydd yn selog am weithio gyda phobl gydag anableddau dysgu a newid eu bywydau.  Doeddwn i ddim yn disgwyl i rywbeth fel hyn ddigwydd i fi.

“Intern roeddwn i ym Engage to Change DFN Project SEARCH llynedd (2018-19), rywsut newidion nhw fi’n berson ydw i nawr, yn ogystal ag ennill hyder mewn cynnig am swyddi a chael y sgiliau ar gyfer y gweithle.  Fel mae’n digwydd, awgrymon nhw y dylwn i gynnig am y swydd hon.

“Yn fy rôl, dw i’n aelod o 2 dîm – y tîm gweinyddol a’r tîm hawdd ei darllen.  Dw i’n cefnogi’r gweinyddwyr trwy wneud tasgau gweinyddol fel ffurflenni gwerthuso ein digwyddiadau a llawer o rwygo. Yn y tîm hawdd ei darllen, fel arfer dw i’n defnyddio’r dull gwerthuso Check It! i wirio dogfennau hawdd eu darllen y mae’r tîm yn eu cynhyrchu a’u rhoi nhw ar y wefan.

“Yn ystod fy amser sbâr, dw i’n mwynhau teithio a thynnu lluniau ar hyd y ffordd.  Dw i’n gwrando ar lawer o gerddoriaeth hefyd, yn arbennig BTS, band K-Pop.”