Mae’r coronafeirws wedi newid ein cymdeithas yn gyflym iawn ac mae’r newidiadau yn mynd i barhau am amser hir.  Bydd rhaid i ni wneud yn siŵr na fydd hawliau dynol pobl anabl yn syrthio wrth ymyl y ffordd yn y broses.


Beth mae coronafeirws wedi ei ddangos inni am ein cymdeithas

Ar hyn o bryd rydym yn wynebu’r newid cymdeithasol mwyaf yng Nghymru ac yng ngweddill y byd ers yr Ail Ryfel Byd. O fewn wythnosau yn unig mae’r newid i’r rhan fwyaf ohonom wedi bod y tu hwnt i adnabyddiaeth. I’r rhan fwyaf ohonom mae’r newid yma wedi bod yn anhygoel. Mae wedi dysgu llawer inni am ein cymdeithas. Bu enghreifftiau eithriadol o undod. Mae grwpiau cymorth ar y cyd wedi eu creu i gynnig cefnogaeth i’n gilydd, O enfys mewn ffenestri i guro dwylo ar drowthwy drysau i ddiolch i’n staff gofal, mae’r wythnosau diwethaf wedi dangos y gorau mewn pobl.

Ond, mae’r argyfwng coronafeirws hefyd wedi amlygu pa mor anghyfartal ydy ein cymdeithas mewn gwirionedd. Efallai ‘ein bod i gyd yn hyn gyda’n gilydd’, ond mae’r modd y mae’r pandemig yma yn effeithio arnom ni yn gwahaniaethu yn enfawr, yn dibynnu ar ein hamgylchiadau. I rai ohonom, mae’r cloi wedi golygu symud i swyddfeydd cyfforddus yn ein cartrefi a gweithio yn ein pyjamas. I eraill mae wedi golygu naill ai colli swyddi neu i nifer sydd yn gweithio mewn swyddi rheng flaen, rhoi ein hunain mewn perygl bob dydd ar isafswm cyflog. I nifer o bobl anabl, mae ymateb Llywodraethau Cymru a’r DU wedi golygu colli cefnogaeth hanfodol.

Mae argyfyngau bob amser yn gyfnodau o ad-drefnu mewn cymdeithas. Tra bod newidiadau enfawr wedi digwydd yn gyflym yn yr wythnosau diwethaf, mae angen inni nawr baratoi at y ffaith bod ein bywydau wedi newid nid yn unig yn gyflym ond am y tymor hirach hefyd. O fewn yr amser hwnnw rydym ni fel cymdeithas yn mynd i orfod archwilio beth ydy ein blaenoriaethau ac yn anffodus mae perygl gwirioneddol na fydd bywydau a llesiant pobl anabl ymysg y blaenoriaethau hynny.

Pam bod pobl anabl yn arbennig mewn perygl?

Mae nifer o resymau pam bod pobl anabl yn neilltuol o hyglwyf yn y cyfnod yma (gweler yma ac yma). Mae’n hynod o bryderus bod Llywodraeth y DU, mewn ymateb i Covid-19 wedi penderfynu gwthio hawliau anabledd 30 mlynedd yn ôl i bob pwrpas drwy atal hawliau i ddarpariaeth gofal cymdeithasol fel rhan o’r Mesur Coronafeirws. Gallai pobl yn anabl gael eu heffeitho hyd yn oed yn fwy llym oherwydd, yn wahanol i oedi dyletswyddau deddf Gofal (2014) yn Lloegr, nid oes unrhyw ofyniad penodol i osgoi torri’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn gynwysiedig yn oedi Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Achos pryder pellach fu canllawiau NICE ar gyfer triniaeth gofal critigol coronafeirws sydd yn defnyddio ‘graddfa eiddilwch’ i benderyfnu pwy ddylai dderbyn triniaeth gofal critigol. Yn dilyn protestiadau oddi wrth grwpiau anabledd, cafwyd esboniad na ddylid defnyddio’r raddfa yma ar gyfer rhai pobl anabl.
Hyd yn oed wrth i’r canllawiau gael eu newid, mae’r ffaith bod y raddfa eiddilwch wedi cael ei defnyddio yn y lle cyntaf yn arwydd pryderus, ar adeg lle mae pobl yn gorfod gwneud ‘penderfyniadau anodd’ dydy’r rhai sydd yn gorfod gwneud y penderfyniadau yma ddim yn cymryd i ystyriaeth yn awtomatig amgylchiadau arbennig pobl anabl. Wrth i’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gynyddu ac yn gorlwytho ei adnoddau cyfyngedig, fe fydd rhaid inni wynebu sefyllfa lle na fydd pawb yn gallu derbyn y driniaeth angenrheidiol. Mae’n frawychus meddwl y gall pobl anabl gael eu gweld yn unig fel cleifion anochel yn y sefyllfaoedd yma.

Mae’n arbennig o drasig mai’r bygythiad mwyaf i bobl anabl ydy angen pobl i ddal at y syniad y gall penderyfniadua fel y rhain fod yn rhai teg.  Mae’n anodd inni dderbyn bod pobl yn mynd i farw yn ddiangen dim ond oherwydd nad oes digon o adnoddau i drin pawb. Mae’r bobl sydd yn mynd i orfod gwneud y penderfyniadau yma yn debygol o geisio’u gorau i fod mor deg â phosibl. Ond y broblem gyda hyn ydy nad oes dim yn deg ynghylch hyn. Ac mae ceisio darganfod naratif lle rydym yn osgoi tynnu triniaeth oddi ar bobl yn annheg yn agor y drws i drafodaethau ynghylch bywyd pwy sydd yn werth ei achub ai peidio. Trafodaethau nad oes lle iddyn nhw yn ein cymdeithas.

Gellir gweld y materion yma yng nghanllawiau NICE, sydd yn nodi eu pwrpas sylfaenol yn y paragraff agoriadol:

“Pwrpas y canllaw hwn ydy gwneud y mwyaf o ddiogelwch cleifion sydd angen gofal critigol yn ystod y pandemig Covid-19, tra’n amddiffyn staff rhag cael eu heintio. Fe fydd hefyd yn galluogi gwasanaethau i wneud y defnydd gorau o adnoddau GIG.”

Mae’n bwysig nodi bod y rhain yn dri nod ar wahân, ac yn hytrach na chefnogi ei gilydd, efallai y byddan nhw’n dod i wrthdaro gyda’i gilydd. Yn  nes ymlaen yn y canllaw mae’n dweud y dylai meddygon ‘seilio penderfyniadau ar dderbyniad oedolion unigol i ofal critigol ar y tebygolrwydd o’u hadferiad, gan gymryd i ystyriaeth y tebygolrwydd y bydd y person yn gwella o’u derbyniad i ofal critigol i ganlyniad sydd yn dderbyniol iddyn nhw’

Mae cryn dipyn o amwysedd yn y canllaw yma. Mae’n dda yn gyffreidno bod y canllaw yn dweud y dylai’r claf benderfynu beth sydd yn ganlyniad derbyniol iddyn nhw. Ond yr hyn sydd yn fwy cyffredinol bryderus ydy’r awgrym y dylid gwrthod triniaeth i rai pobl ar y sail nad ydyn nhw’n debygol o wella ‘yn ddigonol’. Dydy hyn ddim yn dweud bod gofal critigol bob amser yn ddewis cywir i bawb ac nad oedd achosion lle na fyddai ar y cyfan er budd gorau’r claf i’w derbyn i uned gofal critigol. Wrth i adnoddau ddod yn brinnach ac wrth i’r GIG fethu darparu triniaeth achub bywyd i bawb, y perygl yma ydy y  bydd y diffiniad o’r hyn sydd yn ganlyniad derbyniol yn cael ei liwio gan syniadau o beth ydy bywyd sydd yn werth ei fyw.

Diogelu hawliau dynol yn ystod yr argyfwng coronafeirws

Yng ngoleuni’r materion yma, mae’n bwysig parhau i ymladd i ddiogelu hawliau pobl anabl yn ystod yr argyfwng cyfredol. Mae sawl corff ac unigolyn wedi gwneud datganiadau i ddiogelu pobl anabl rhag coronafeirws. Cyhoeddodd y corff Doctors United ddatganiad yr wythnos diwethaf yn condemnio’r ffordd y mae canllawiau cyfredol yn rhoi gwahanol werthoedd ar fywydau pobl.

‘Mae condemniad mympwyol un grŵp neu arall yn anfaddeuol. Ni ddylai fod yn hen, byw mewn cartref gofal  neu fod ag anabledd cynharach arwain at eithrio awtomatig o driniaeth posibl. Mae categoreiddio blanced o grwpiau mawr o bobl mewn dull o’r fath yn rhagfarn. Does dim lle i hynny yn y GIG.

Yr wythnos diwethaf llofnododd dros 1000 o bobl lythyr gan y Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru o fewn 24 awr yn galw am barchu hawliau pobl anabl. Wrth fynd ymlaen mae hyn yn mynd i fod yn bwysicach nag erioed. Dydy’r materion y mae Covid-19 yn eu datgelu ddim yn newydd. Mae pobl anabl wedi wynebu anghyfartaleddau iechyd ymhell cyn i  coronafeirws ymddangos ac oherwydd diffyg cyllid, mae’r GIG wedi cael trafferth i ateb y galw cyn gorfod delio gyda’r achosion ychwanegol o coronafeirws. Rhaid i lywodraethau Cymru ar DU flaenoriaethu llesiant pobl anabl yn yr argyfwng yma. Rhaid iddyn nhw hefyd sicrhau ein bod yn sicrhau bod ein system gofal cymdeithasol yn ddigon gwydn i wynebu’r argtyfwng nesaf ar ôl i’r gwaethaf o’r pandemig fynd heibio.