Sam Jenkins yn ein cynhadledd flynyddolBu farw ein cydweithiwr a’n ffrind Sam Jenkins ar 1 Rhagfyr 2020. Fe fydd ei holl gydweithwyr a’i ffrindiau o Anabledd Dysgu Cymru yn colli Sam am y cyfan a roddodd inni dros y blynyddoedd.

Dechreuodd Sam weithio yn Anabledd Dysgu Cymru dros 13 mlynedd yn ôl a sefydlodd ei hun yn gyflym fel aelod cryf a dibynadwy o’r tîm. Roedd yn falch iawn o fod yn rhan o dîm Anabledd Dysgu Cymru, bob amser yn fodlon cefnogi’r corff a’i chydweithwyr lle bynnag y gallai. Un o uchafbwyntiau ein blwyddyn waith, ac un o uchafbwyntiau Sam, oedd ein cynhadledd flynyddol lle byddem i gyd yn gwisgo ein crysau-t coch a bod gyda’n gilydd fel tîm.

Roedd Sam yn fwy na chydweithiwr inni fodd bynnag, i nifer daeth yn ffrind da oedd yn ein hatgoffa  ni i gyd bod cwpaned o de a sgwrs weithiau yn rhan bwysicaf y dydd.

Mae gan bob un ohonom nifer o atgofion am synnwyr digrifwch a hwyl Sam, sut roedd wrth ei bodd yn sgwrsio a rhannu atgofion am bethau roedden ni wedi eu gwneud gyda’n gilydd. Doedd parti gwaith fyth yr un fath os nad oedd Sam yn gallu dod a gellid dibynnu arni bob amser i gael y siwmer Nadolig orau yn ein cinio Nadolig.

Roedd Sam yn berson penderfynol a gwydn iawn. Am gryn dipyn o’i bwyd bu’n rhaid i Sam wthio i sefydlu ei hannibyniaeth ac i gael ei chlywed, ac mae’r rhai oedd yn ei hadnabod yn gallu gweld bod ei phenderfyniad a‘i gwytnwch wedi bod o fudd iddi.

Roedd Sam hefyd yn hunaneiriolydd ymroddedig dros hawliau pobl gydag anabledd dysgu. Roedd yn bwysig iddi bod ei phrofiad a’i meddyliau yn gallu cael eu defnyddio i wneud bywyd yn well i’r holl bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru.

Yn ystod y cyfnod clo roedd Sam yn teimlo’r boen o gael ei gwahanu oddi wrth ei hanwyliaid a phatrymau bywyd cyffredin, fel y gweddill ohonom. Ond wnaeth hi ddim derbyn hyn yn dawel. Roedd Sam yn benderfynol o gadw mewn cysylltiad, a hi oedd yr un oedd yn sicrhau bod ei chydweithwyr yn cadw mewn cysylltiad ac yn siarad, nid yn unig am waith ond hefyd am y llawenydd a’r cysur o siarad gyda ffrindiau, rhannu chwerthiniad, siarad am broblemau a chofio beth sydd yn bwysig mewn bywyd.

Rydym yn meddwl am fam Sam, Margaret a’i theulu a’i chariad Nathan, ynghyd â’r llu o bobl ym mywyd Sam y rhoddodd gymaint o hapusrwydd iddyn nhw.

Fe fydd pob un ohonom yn Anabledd Dysgu Cymru yn colli Sam  am byth ac ni fyddwn yn anghofio’r cyfan a roddodd ac a ddysgodd inni: ffyddlondeb, chwerthin, penderfyniad, cyfeillgarwch a grym menyw gref.