Astudiaeth o fywydau pobl ag anabledd dysgu drwy’r pandemig coronafeirws yng Nghymru

A fyddech cystal â’n helpu drwy gymryd rhan yn ein hastudiaeth ledled y DU…

Dywed Ffion, Cadeirydd Pobl yn Gyntaf Caerffili Byddai’n wych pe bai pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru yn cymryd rhan yn yr astudiaeth. Rydyn ni eisiau i bobl wrando ar leisiau pobl yng NghymruGwrandewch ar fideo Ffion isod (1 funud, 39 eiliad).

Llofnodwch ein FFURFLEN MYNEGI DIDDORDEB neu gweler isod am ffyrdd eraill o ddweud eich bod am gymryd rhan.

Hoffem glywed gennych chi os:

  • Oes gennych chi anabledd dysgu
  • Ydych chi’n byw gyda rhywun sydd ag anabledd dysgu y gellid ei gyfweld â chymorth
  • Ydych chi’n gweithio gyda phobl sydd ag anabledd dysgu y gellid ei gyfweld â chymorth

Rydym yn bartneriaid mewn astudiaeth ledled y DU. Rydym am ddod o hyd i bobl ag anabledd dysgu sy’n fodlon cymryd rhan ynddo drwy siarad ag ymchwilwyr mewn cyfweliad.  Gall hyn fod dros y ffôn neu alwad fideo.  Gallwch wneud y cyfweliad ar eich pen eich hun neu gyda chymorth aelod o’r teulu, ffrind neu weithiwr cymorth.

Bydd y cyfweliad yn gofyn i chi am y canlynol:

  • sut rydych chi wedi teimlo yn ystod y pandemig
  • pa bethau y gallech fod wedi poeni amdanynt
  • y pethau y gallai fod angen cymorth arnoch ar eu cyfer
  • sut y cawsoch wybodaeth am coronafeirws ac os oedd y wybodaeth honno’n dda.
  • y pethau sydd wedi bod yn bwysig i chi.

Mae gennym 40 o bobl wedi cofrestru hyd yn hyn! Ond rydym am siarad â 160 o bobl eraill ag anabledd dysgu.  Gadewch i bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru gael eu clywed. Rydyn ni eisiau clywed gan bobl:

  • dros 16 mlwydd oed
  • ledled Cymru.
  • gan bobl o wahanol gefndiroedd, pobl sy’n dod o gymunedau Du neu Asiaidd
  • sy’n byw mewn gwahanol leoedd megis byw’n annibynnol, byw â chymorth, gyda’u teulu neu mewn gofal preswyl.

Mae’r cyfweliadau’n dechrau nawr a byddant yn rhedeg tan ddiwedd mis Ionawr.   Gallwch siarad â rhywun ar ddiwrnod ac amser sy’n addas i chi.

Yna gallwn ddefnyddio’r holl wybodaeth rydyn ni’n ei chael gan 200 o bobl ag anabledd dysgu ledled Cymru i helpu i wneud pethau’n wahanol yn y dyfodol.  Mae gwersi i’w dysgu ac mae angen i bobl wrando.  Ond dim ond os yw llawer o bobl ag anableddau dysgu yn siarad am yr hyn sydd wedi digwydd y gallant wrando. Felly mae angen i bobl gymryd rhan yng Nghymru.

Mae gen i ddiddordeb sut ydw i’n cymryd rhan?

Pwy sy’n gwneud yr astudiaeth?

Mae grŵp o ymchwilwyr a sefydliadau sy’n gweithio i bobl ag anabledd dysgu neu eu rhieni a’u gofalwyr ledled y DU yn cydweithio ar yr astudiaeth hon.

Yma yng Nghymru, mae Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn gweithio gydag Anabledd Dysgu Cymru,  Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan a Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.

Rhagor o wybodaeth:

Gwefan y DU: www.covid19learningdisabilities.co.uk

Anabledd Dysgu Cymru

Taflen hawdd ei deall 

Project logo showing a map of waleslogos