young man in a suit at a table smiling and reading some documentsRydym ni’n falch iawn o groesawu Gerraint Jones-Griffiths yn ôl i dîm Anabledd Dysgu Cymru. Fe wnaethom ni ofyn i Gerraint ddweud wrthym amdano’i hun a’i rôl fel Cydlynydd Prosiect Democratiaeth ar gyfer ein prosiect newydd, Barod i Bleidleisio.

Rwy’n falch iawn o fod yn ailymuno ag Anabledd Dysgu Cymru, lle byddaf yn cydlynu ein prosiect Barod i Bleidleisio.

Bydd fy rôl yn cynnwys helpu i ddatblygu’r cynnwys ar gyfer ein gweithdai a’n hustyngau – mae’r rhain yn gyfarfodydd lle mae ymgeiswyr etholiadol neu bleidiau yn trafod polisïau ac yn ateb cwestiynau gan y gynulleidfa. Byddaf hefyd yn darparu hyfforddiant i bobl ag anabledd dysgu am bleidleisio ac etholiadau. Bydd y sesiynau wedi’u dylunio i fod yn hwyl ac yn ddifyr, gan annog pawb i gymryd rhan mewn democratiaeth.

Byddaf yn gweithio’n agos gyda’n tîm Hawdd Ei Ddeall Cymru i sicrhau bod y wybodaeth mae’r prosiect yn ei chynhyrchu yn hygyrch ac yn hawdd ei deall.

Ochr yn ochr â hyn, byddaf hefyd yn cefnogi ein tîm Polisi a Chyfathrebu i greu deunyddiau cyhoeddusrwydd a helpu i hyrwyddo’r prosiect.

Y tu allan i’r gwaith, rwy’n mwynhau chwarae a chefnogi chwaraeon cymunedol. Rwyf wedi bod yn chwarae bowlio lawnt ers bron i 10 mlynedd, rydw i wedi dechrau dartiau yn ddiweddar, ac rydw i hefyd yn gludwr dŵr i’m tîm rygbi lleol.

Pan fydd gen i’r egni, rwy’n mwynhau nofio yn gynnar yn y bore cyn dechrau fy niwrnod yn gweithio gartref. Rwyf wrth fy modd yn mynd am dro gyda fy mhartner ac rydw i hefyd yn mwynhau gwyliau mordeithio gyda fy nheulu.


graphic of a polling card and a group of peopleBarod i Bleidleisio

Bydd y prosiect yn cynnwys:

  • Gweithdai a hyfforddiant hygyrch
  • Creu gwybodaeth hygyrch am bleidleisio ac etholiadau
  • Digwyddiadau hustyngau
  • Teithiau i San Steffan a’r Senedd
  • Etholiadau lleol Cymru 2027 – sesiwn ymwybyddiaeth

Darganfod mwy

I gael gwybod mwy a chymryd rhan, ewch i dudalen y prosiect Barod i Bleidleisio. E-bost policy@ldw.org.uk.