Heddiw ydy Diwrnod Cofio’r Holocost, cyfle i fyfyrio, dysgu a chofio’r holl bobl gafodd eu herlid a’u lladd yn ystod yr Holocost, dan erledigaeth y Natsïaid, ac mewn hil-laddiadau eraill.

Mae 27 Ionawr 2020 yn nodi 75 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz, y gwersyll garchar a difodi Natsïaidd lle cafodd 1.1 mliwn o bobl eu lladd yn ystod yr Holocost.

Roedd pobl gydag anabledd dysgu ymysg y grwpiau cyntaf o bobl i gael eu targedu yn ystod yr Holocost – yn cael eu stereleiddio a’u llofruddio dan raglen Aktion T4  y Natsïaid a laddodd tua 300,000 o bobl anabl.

Rydyn ni wedi casglu adnoddau hygyrch am yr Holocost i sicrhau bod pobl gydag anabledd dysgu yn cymryd rhan heddiw yn y cofio, yn dysgu ac yn addysgu eraill am ffeithiau hanfodol yr Holocost, yn ogystal â’i achosion a’i ganlyniadau.

Adnoddau ‘hawdd eu deall’ a hygyrch

Dydyn ni ddim yn ymwybodol ar hyn o bryd o unrhyw adnoddau hawdd eu deall am yr Holocost a fyddai’n gwbl hygyrch i bobl gydag anabledd dysgu. Ond, mae yna rai adnoddau ‘hawdd eu deall’ da sydd wedi’u creu ar gyfer cynulleidfaoedd iau a fyddai’n gallu bod yn ddefnyddiol:

Os ydych chi’n ymwybodol o unrhyw adnoddau hygyrch am yr Holocost – yn adnoddau hawdd eu deall, cynyrchiadau theatr neu ffilmiau hygyrch – hoffem wybod amdanyn nhw. E-bostiwch Kai Jones os gwelwch yn dda ar kai.jones@ldw.org.uk.

entrance to Auschwitz 1 - barrier is raised next to an iron sign over the entrance that reads in English Work Sets You Free. Behind the barrier are rows of large red bricked buildings
Gate to Auschwitz I with its ‘Arbeit macht frei’ sign (“work sets you free”)