A person smiling at the camera. Hair pulled back, wearing a grey jacket

Victoria Waller yw ein llysgennad Ffrindiau Gig yng ngogledd Cymru. O ystyried ei holl waith caled, gofynnom i Vic rannu rhai o’r pethau mae wedi bod wrthi yn eu gwneud i hyrwyddo Ffrind Gigiau ers dechrau yn ei swydd.

Haia, Victoria Waller ydw i a dw i’n falch o fod yn llysgennad Ffrindiau Gig yng ngogledd Cymru! Mae fy swydd yn cynnwys siarad â phobl am sut mae Ffrindiau Gig yn helpu oedolion gydag anabledd dysgu ac oedolion awtistig i oresgyn unigrwydd trwy ddiwylliant, cyfeillgarwch a hwyl.

Ers i mi gael fy mhenodi i’r swydd ym mis Tachwedd 2025, rwyf wedi mwynhau mynd i ddigwyddiadau, rhedeg stondinau a rhwydweithio gyda sefydliadau eraill ledled gogledd Cymru. Rwy’n hynod falch o gynrychioli Ffrindiau Gig Cymru ac o fod yn rhan o Dîm Anabledd Dysgu Cymru.

Dw i wedi bod ar stondinau Ffrindiau Gig mewn digwyddiadau, o ddiwrnodau recriwtio mewn canolfannau byd gwaith i’r gynhadledd Cymorth Ymddygiadol Positif, i Sioe Môn yn fwyaf diweddar. Dw i wedi mwynhau’n fawr iawn y cyfle i siarad â phobl am y prosiect, recriwtio gwirfoddolwyr, cofrestru cyfranogwyr a rhwydweithio gyda sefydliadau lleol.

Fel rhywun sydd wedi bod yn ffrind gig ers 2020, dw i’n gallu rhoi mewnwelediad go iawn i sut mae’r prosiect yn gallu cael effaith bositif ar fywydau pobl.

Rhan o’r hwyl yw gallu rhoi rhoddion a nwyddau am ddim gyda’r logo Ffrindiau Gig! Mae gennym feiros, cylchoedd allweddi, bathodynnau, sticeri a’n taflenni newydd sbon danlli… Mae’r byrddau’n sefyll allan bob tro diolch i’n bwâu plu, gorchuddion bwrdd disgo a’r byntin sy’n denu pobl yn eu cannoedd.

Fis Mehefin, nes i redeg grŵp cynllunio cymdeithasol i’n ffrindiau gig ar Zoom gydag Ellie, ein cydlynydd cymorth prosiect. Gwnaethom feddwl am gwestiynau hwyliog a fyddai’n ennyn chwilfrydedd, i ddysgu beth mae’r ffrindiau wir eisiau ei wneud gyda’u bywydau cymdeithasol. Ymysg pethau eraill, gwnaethom drafod ein hoff brydau bwyd, cerddorion a pha weithgareddau rydym eisiau rhoi cynnig arnynt.

Roedd gan ein ffrindiau lawer o syniadau grêt, a byddwn yn eu cynnwys nhw yn y digwyddiadau cymdeithasol a drefnwn ledled Gogledd Cymru.

FOCUS Cymru

Uchafbwynt y flwyddyn i mi oedd ymweld â Gŵyl FOCUS Cymru yn Wrecsam ym mis Mai. Am y tro cyntaf, bues i’n aros mewn AirBnB a hynny gyda fy nghydweithwyr Ellie a Malan. Sôn am chwerthin!

Roedd gennym stondin Ffrindiau Gig drwy gydol yr ŵyl gyda llawer o roddion am ddim i’w rhannu â’r cyhoedd. Bues i’n rhwydweithio gyda phobl bwysig, gan gynnwys cyd-sylfaenydd yr ŵyl, Andy Jones, cyfarwyddwr Tŷ Cerdd a hyrwyddwr cerddoriaeth Cymreig.

Fy hoff berfformiad oedd un Gwenno, ac ro’n i’n ddigon ffodus i gwrdd â hi, cael sgwrs a thynnu lluniau gyda hi ar ôl iddi orffen! I ffwrdd â fi ar ddiwedd yr ŵyl yn teimlo’n lwcus iawn o fod wedi profi cymaint a chwrdd â chymaint o bobl newydd mewn ychydig ddyddiau. Ro’n i wedi blino’n lân, ond yn y ffordd orau posibl.

Sgyrsiau a Chyflwyniadau

Rhan o fy rôl fel llysgennad yw rhoi cyflwyniadau a sgyrsiau i sefydliadau ledled gogledd Cymru. Rydyn ni’n bwriadu cael gymaint o bobl ag sy’n bosibl yn rhan o’n prosiect anhygoel, a byddaf yn falch o rannu ein stori gydag unrhyw un sy’n fodlon gwrando!

Nes i siarad am y tro cyntaf (nid y tro olaf gobeithio!) mewn cyfarfod Anheddau Ni, sefydliad anabledd dysgu sydd wedi’i leoli ym Mangor, Gwynedd. Cynhaliwyd y sgwrs ar-lein dros Zoom gydag un o’u grwpiau ar ddydd Mawrth. Roedd un o’n cyfranogwyr, Paul – sy’n Ddarlithydd Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor – yn rhan o’r grŵp hwn. Ro’n i o’r farn fod y sesiwn yn hynod lwyddiannus. Nid yn unig oedden nhw’n cael cyfle i ddysgu amdanom ni, ond hefyd sut y gallent elwa o’r prosiect drwy ymuno â ni fel cyfranogwr.

Yn fwy diweddar, bues i’n cyflwyno i Dîm Gwella Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Wrecsam. Ro’n i’n falch iawn o fod yng nghwmni John, fy nghydweithiwr, ar y diwrnod. Dangosodd y tîm ddiddordeb go iawn mewn Gig Buddies, beth rydym yn ei wneud a’m profiad go iawn o fod yn ffrind gig. Nes i hefyd roi ychydig o fewnwelediad i’m bywyd go iawn personol fel rhywun sydd ag anabledd dysgu prin iawn – er yn aml iawn ac o’m safbwynt i, mae’n well gen i ei alw yn anaf i’r ymennydd.

Fis Medi, byddaf yn cyflwyno i Gyngor Gwirfoddol Wrecsam yn eu rhwydwaith iechyd a gofal. Dw i’n bwriadu mynd â chardiau busnes hefo fi i’w rhannu â sefydliadau arall fydd yno. Dw i wrth fy modd yn rhwydweithio – un o’r pethau gorau am fy swydd!

Rydym yn awyddus i adeiladu’r gymuned Ffrindiau Gig ar draws Gogledd Cymru. Os ydych chi ynghlwm wrth sefydliad celfyddydol, grŵp cymunedol, clwb chwaraeon neu leoliad cerddoriaeth, cysylltwch ar bob cyfrif a bydden i’n falch iawn o ddod i siarad â’ch aelodau.

Mae angen mwy o wirfoddolwyr arnom i leihau lefelau ynysu cymdeithasol ymysg pobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yng ngogledd Cymru.

Os ydych eisiau cael hwyl, gwneud ffrindiau newydd a chael effaith bositif ar eich cymuned, cysylltwch â ni drwy e-bostio gigbuddies@ldw.org.uk neu ffonio 029 2068 1160.

Fy nghyfeiriad e-bost yw victoria.waller@ldw.org.uk. Cysylltwch ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau!

Dw i wedi mwynhau fy hun yn fawr iawn yn bob yn llysgennad, a dw i’n methu aros am y cyfleoedd sydd ar ddod!