Pan fyddwn yn trafod “cynhwysiant”, mae’n hanfodol cynnwys cynhwysiant digidol yn y sgwrs. Buom yn siarad ag Innovate Trust am pam mae cynhwysiant digidol yn bwysig i bobl ag anabledd dysgu.


A man with a bald head, glasses and beard showing a lady with dark hair in a bun a mobile phone.Amcangyfrifir bod tua 7% o oedolion yng Nghymru dros 16 oed wedi’u hallgáu’n ddigidol, sy’n golygu nad oes ganddynt fynediad i fannau ar-lein. Canfu’r Digital Care Hub hefyd fod tua 32% o bobl ag anabledd dysgu yn y DU â diffyg sgiliau digidol sylfaenol, bwlch sy’n cyfyngu mynediad at hanfodion bob dydd fel bancio, gofal iechyd, trafnidiaeth, siopa a chadw mewn cysylltiad ag eraill.

Dyna pam mae sefydliadau fel Innovate Trust, sy’n darparu gwasanaethau byw â chymorth a chymorth cymunedol i oedolion ag anabledd dysgu, awtistiaeth ac anghenion ychwanegol, yn gwneud gwaith mor bwysig. Cafodd Innovate Trust ei hail-achredu’n ddiweddar o dan raglen Cynhwysiant Digidol Cymru, gan gydnabod ei ymrwymiad parhaus i helpu pobl i feithrin y sgiliau digidol, yr hyder a’r mynediad sydd eu hangen arnynt i ffynnu ar-lein.

Wrth wraidd y gwaith hwnnw mae ap Insight. Wedi’i lansio yn 2019, ei genhadaeth yw hyrwyddo cynhwysiant digidol a mynd i’r afael ag ynysu cymdeithasol, ac mae wedi tyfu i fod yn rhywbeth llawer mwy nag ap; mae’n gymuned wirioneddol.

Buom yn siarad gyda’r Rheolwr Arloesi Digidol, Ashley Bale, i drafod hygyrchedd digidol, pam ei fod yn bwysig, a’r camau y gellir eu cymryd i sicrhau bod y byd ar-lein yn gweithio i bawb.

Sut ddechreuodd yr ap Insight?

Ashley: Roedden ni’n gweithio gyda’r bobl rydyn ni’n eu cynorthwyo i ddysgu sut roedd oedolion ag anableddau dysgu yn ymgysylltu â chyfryngau cymdeithasol a chynnwys ar-lein. Dywedodd llawer wrthym eu bod nhw wedi cael profiadau gwael ar lwyfannau prif ffrwd, gan dderbyn ymatebion neu sylwadau negyddol ar negeseuon a chynnwys roedden nhw wedi’u rhannu. Dywedon nhw hefyd eu bod nhw’n cael trafferth dileu cynnwys roedden nhw wedi’i rannu ac nad oedden nhw bob amser yn deall sut i roi gwybod am broblemau neu gael cymorth pan fyddai pethau’n mynd o chwith.

Ein syniad cychwynnol oedd creu ap ar gyfer y bobl rydyn ni’n eu cynorthwyo, eu teuluoedd a’u sefydliadau partner. Yna, yn 2020, fe ddaeth y pandemig, a phenderfynon ni lansio’r ap i gyrraedd pobl anabl a sefydliadau eiriolaeth a chymorth ledled y DU, a allai elwa o ap cymunedol sy’n cynnig lle cymdeithasol i ddod at ei gilydd, rhannu profiadau, gwneud ffrindiau, ymuno â grwpiau o amgylch diddordebau cyffredin, cael mynediad at ddigwyddiadau a chadw ar y blaen â’r hyn sy’n digwydd ar draws eu cymuned a’r sefydliadau sy’n rhannu cynnwys ar yr ap.

Mae gan yr ap aelodaeth eang bellach ac mae wedi agor profiadau a chyfleoedd newydd i lawer o’i aelodau. Mae’n tyfu’n gyson, gyda dros 2,000 o bobl eisoes yn defnyddio’r ap.

Beth yw rhai o nodweddion yr ap?

Ashley: Mae’r ap wedi dod yn fan lle gall aelodau gael mynediad at ddigwyddiadau o bob cwr o’r DU, i gyd mewn un lle.

Rhyngddynt, gall ein haelodau ddewis o dros 80 o weithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb bob wythnos: yn amrywio o wyliau cerddoriaeth, disgo, bingo, ioga, dosbarthiadau lles, dosbarthiadau iaith a llawer mwy.

Mae yna hefyd ganolfan wirfoddoli yn yr ap, wedi’i hariannu gan Grant Strategol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), gyda dogfennau Hawdd eu Darllen a phroses hygyrch ar gyfer gwneud cais am gyfleoedd gwirfoddoli, wedi’i chreu ar y cyd â gwirfoddolwyr o Gaerdydd, y Fro a Rhondda Cynon Taf.

Rydym yn ychwanegu canolfan adnoddau at yr hyb hefyd ar hyn o bryd, felly mae un lle canolog i bobl gael mynediad at wybodaeth Hawdd ei Darllen pwysig. Rydym yn croesawu sefydliadau i gysylltu os hoffent gynnwys eu dogfennau ar yr ap.

Ein tîm o ddefnyddwyr apiau dan arweiniad cyfoedion sy’n cynnal eu gweithgareddau a’u digwyddiadau eu hunain ac yn helpu i lunio ble mae’r ap yn mynd nesaf. Mae’r ap wedi dod yn blatfform dan arweiniad cyfoedion, sy’n wych i’w weld. Nid yn unig y mae wedi agor cyfleoedd i bobl ag anabledd dysgu fod ar-lein a chael eu cynnwys yn ddigidol yn well; gall sefydliadau gyrraedd pobl nad oeddent efallai wedi cysylltu â nhw o’r blaen ac ymgysylltu â nhw yn y ffordd sy’n gweithio orau iddyn nhw.

Gyda’r ap, rydym yn y pen draw yn ceisio adeiladu beth bynnag y mae ein haelodau’n gofyn amdano.

Mae adran syniadau yn yr ap lle gall aelodau wneud awgrymiadau a gall aelodau eraill bleidleisio. Yn wreiddiol, ei fwriad yn gyfan gwbl oedd ar gyfer gwella’r ap, ond mae wedi rhoi lle i bobl rannu eu barn ar wasanaethau ehangach hefyd.

A man with a bald head, glasses and beard showing a lady with blonde hair in a ponytail how to use a mobile phone.Pa heriau’n ymwneud â thechnoleg ydych chi wedi cynorthwyo eich aelodau gyda nhw?

Ashley: I lawer o aelodau ein hap, gall creu cyfrineiriau cryf, eu cadw ar eu dyfeisiau a chofio sut i gael mynediad atynt fod yn anodd.

Fel rhan o helpu aelodau i fynd ar-lein, rydym yn cynorthwyo ac mae gennym fiometreg adeiledig, fel y gall aelodau fewngofnodi, mewn ffordd sy’n hygyrch iddynt. Mae deall sut mae ailosod cyfrinair yn gweithio a rheoli cyfrif e-bost ymhlith yr heriau mwyaf a welwn amlaf.

Yn ddiweddar, lansiwyd ein prosiect Cau’r Bwlch, sef rhaglen beilot 12 mis a ddarparwyd gan Innovate Trust mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Dewis Cyntaf ac a ariennir gan Grant Arloesi Cynhwysiant Digidol Cymru Llywodraeth Cymru.

Mae’r prosiect yn archwilio sut y gall technoleg gynorthwyol hygyrch helpu oedolion ag anableddau ledled Caerdydd, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf i ddatblygu sgiliau digidol, aros yn fwy diogel a byw’n fwy annibynnol, gan fynd y tu hwnt i roi dyfais i rywun i ddod o hyd i’r dechnoleg gywir, a’r cymorth cywir, i bob unigolyn.

Cafodd un o’n cyfranogwyr, Negina, ffôn clyfar newydd symlach yn anrheg drwy’r prosiect. Mae hi’n galw ei sesiynau hyfforddiant ar dechnoleg yn “mynd i’r ysgol,” ac mae hi’n hynod falch o’r hyn y mae hi wedi’i ddysgu. Gall hi nawr ffonio ei theulu ar fideo pryd bynnag y mae hi eisiau a chwilio am ei hoff gerddoriaeth, pethau bach sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’w hannibyniaeth.

Rydym hefyd yn treialu ffonau clyfar ac oriawr glyfar symlach gyda SIMs adeiledig, canfod codymau a botymau SOS, fel bod pobl yn teimlo’n fwy hyderus yn mynd allan ar eu pennau eu hunain os oes ganddynt gyflwr iechyd sy’n peri risg o godwm.

Ond credaf mai’r peth pwysicaf yw dewis.

Mae’n ymwneud â sicrhau bod pobl yn gwybod beth sydd ar gael iddyn nhw a bod ganddyn nhw ddewis gwirioneddol dros gael eu cynnwys yn ddigidol.

Beth sydd gennych chi wedi’i gynllunio ar gyfer ein Cynhadledd Flynyddol?

Ashley: Ein prif genhadaeth yw sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu ar flaen y gad o ran cael mynediad at dechnoleg ddigidol a’i defnyddio, nid yn cael eu trin fel ôl-ystyriaeth, ac mae llawer o waith i’w wneud o hyd o ran mynediad at y dechnoleg gywir.

Rydym yn cynnal gweithdy gyda Phrifysgol Caerdydd yn archwilio sut y gall technoleg cartrefi clyfar gynorthwyo gyda lles, annibyniaeth a diogelwch oedolion ag anabledd dysgu. Bydd yn sesiwn ryngweithiol lle gall pobl ddod draw a rhoi cynnig ar dechnoleg fel seinyddion clyfar, oriawr glyfar a sbectol glyfar, a bydd cyfle i fynychwyr roi adborth ar y dechnoleg maen nhw’n ei defnyddio a’r hyn maen nhw’n teimlo sy’n gweithio orau iddyn nhw, gan ein helpu i ddeall yr effaith y gall technoleg ei chael mewn gwirionedd.

Archebwch eich tocynnau ar gyfer Cynhadledd Flynyddol Learning Disability Wales drwy glicio ar y botwm isod.
Petryal coch gyda geiriau gwyn yn dweud 'Cliciwch yma i archebu eich tocynnau!'


Datblygwyd yr ap Insight gan Innovate Trust i hyrwyddo cynhwysiant digidol i oedolion ag anabledd dysgu, awtistiaeth ac anghenion ychwanegol. Am ragor o wybodaeth mwy neu i gymryd rhan, ewch i https://innovate-trust.org.uk/cy/services/insight-app/