Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu i alluogi rhywun sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yng Nghymru i wirio a ydyn nhw mewn mwy o berygl o effeithiau difrifol y coronavirus.

Mae’r adnodd yn gadael i chi ystyried eich ffactorau risg personol ac yn awgrymu gweithrediadau all eich helpu i gadw’n ddiogel. Unwaith eich bod chi wedi cwblhau’r asesiad risg, yna dylech chi drafod eich sgôr â’ch rheolwr llinell ac unrhyw berson perthnasol arall megis iechyd galwedigaethol, cynrychiolwyr undebol neu eiriolwyr I sicrhau eich gwarchodaeth priodol wrth weithio neu wirfoddoli.

Mae 4 adnoddau asesu risg a gynllunir i’w defnyddio at fathau penodol o weithleoedd:

Hefyd mae fersiwn hawdd ei ddeall (PDF) a ddatblygwyd gan dîm Hawdd ei Ddeall Cymru i alluogi pobl gydag anabledd dysgu i wirio eu lefelau risg o Covid-19 wrth weithio neu wirfoddoli.

Mae cyngor pellach ar adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu, gan gynnwys atebion i gwestiynau cyffredin, ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.