Anogir pobl gydag anabledd dysgu, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, gofalwyr di-dâl ac unrhyw un mewn cysylltiad agos â rhywun ar restr cleifion gwarchodedig GIG, i gymryd eu brechiad y ffliw am ddim yr hydref hwn a’r gaeaf hwn.  Mae’r neges yn rhan o Curwch y Ffliw, ymgyrch blynyddol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ystod gaeaf arferol, bydd miloedd o bobl yn marw o salwch cysylltiedig â’r ffliw yn y DU. Y gaeaf yma, efallai y bydd COVID-19 a’r ffliw yn bodoli ar yr un pryd, felly mae’n bwysig iawn cael eich gwarchod rhag y ffliw.

Mae’r ffliw yn gallu bod yn ddifrifol iawn. Cael brechiad y ffliw bob blwyddyn yw’r warchodaeth orau rhag y ffliw. Dyma pam y dylai pobl sy’n wynebu’r risg fwyaf o gymhlethdodau os byddant yn cael y ffliw gael brechiad, hyd yn oed os ydynt yn teimlo’n iach.

Ar gyfer rhaglen ffliw’r tymor hwn, mae grwpiau newydd wedi’u hychwanegu at y rhestr gymwys, sy’n golygu mai dyma’r rhaglen ffliw genedlaethol fwyaf erioed. Mae’r grwpiau cymwys newydd yn cynnwys cysylltiadau cartref ar restr y GIG o’r bobl a warchodir a phobl ag anabledd dysgu.

Yn ogystal, efallai y bydd pobl 50 oed a throsodd hefyd yn cael cynnig brechlyn ffliw am ddim gan y GIG yn ddiweddarach yn y tymor.

Mae brechiad y ffliw am ddim (i bobl o chwe mis oed) os oes ganddynt y cyflyrau canlynol:

  • Ag anabledd dysgu
  • Problem gyda’r galon
  • Cwyn gyda’r frest neu anawsterau anadlu, gan gynnwys asthma sydd angen mewnanadlydd steroid rheolaidd neu dabledi
  • Clefyd yr arennau
  • Lefel isel o imiwnedd oherwydd clefyd neu driniaeth (fel triniaeth canser steroid) neu mewn cysylltiad agos neu’n byw gyda rhywun yn y grŵp hwn
  • Clefyd ar yr iau/afu
  • Diabetes
  • Wedi cael strôc (neu strôc fechan)
  • Mae gennych gyflwr niwrolegol, fel sglerosis ymledol (MS), parlys yr ymennydd neu syndrom ôl-polio
  • Mae gennych broblem gyda’ch dueg, fel clefyd y crymangelloedd, neu wedi cael tynnu eich dueg
  • Oedolyn gyda phwysau corff uwch (a mynegai màs y corff (BMI) o 40 neu fwy).

Mae hefyd yn cael ei argymell ac am ddim ar gyfer y bobl ganlynol:

  • Merched beichiog
  • 65 oed a hŷn*
  • Byw mewn cartref preswyl neu nyrsio
  • Gofalwyr
  • Ymatebwr cyntaf cymunedol
  • Aelod o sefydliad gwirfoddol cydnabyddedig sy’n darparu cymorth cyntaf
  • Rydych chi’n byw yn yr un tŷ â rhywun sydd ar restr cleifion cysgodi’r GIG.

*(Gall oedrannau ychwanegol gael eu gwahodd am frechiad y ffliw pan mae mwy o frechiadau ar gael. Edrychwch ar curwchffliw.org am fwy o wybodaeth.)

Gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol

Os ydych chi’n dod i gysylltiad uniongyrchol â chleifion neu gleientiaid, argymhellir brechiad y ffliw. (Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n gweithio mewn cartrefi gofal preswyl, neu’r rhai sy’n gweithio fel gofalwyr, yn gofalu am bobl yn eu cartrefi eu hunain a all gael eu brechiad yn eu fferyllfa leol.)

Plant

Mae brechiad y ffliw drwy chwistrell trwyn yn cael ei argymell ar gyfer pob plentyn dwy neu dair oed ar 31 Awst 2020. Gallant ei gael yn eu meddygfa yn y rhan fwyaf o ardaloedd. Mae pob plentyn yn yr ysgol gynradd yn gymwys ar gyfer y brechiad hwn hefyd, ac maent yn ei gael yn yr ysgol fel rheol.

 Brechiad y ffliw yw’r ffordd orau i warchod rhag dal neu ledaenu’r ffliw. Peidiwch â’i golli. Os nad ydych yn sicr a oes posib i chi gael brechiad y ffliw am ddim, holwch am gyngor yn eich meddygfa neu eich fferyllfa leol.

Gwybodaeth ac adnoddau – gan gynnwys gwobodaeth hawdd ei deall

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi trefnu i llawer o adnoddau i helpu i annog pobl i gymryd eu brechiad y ffliw blynyddol am ddim fod ar gael, gan gynnwys canllaw hawdd ei ddeall, a gynhyrchwyd gan Anabledd Dysgu Cymru:

Curo’r ffliw: A ddylech chi gael brechiad rhag y ffliw y GIG am ddim? (PDF)

Curo’r ffliw: Ydych chi’n berson ag anabledd dysgu? (PDF)

Mwy o wybodaeth am y ffliw a brechiadau’r ffliw yn www.curwchffliw.org.

Gall y trefniadau fod yn wahanol yn ystod tymor y ffliw eleni oherwydd COVID-19. Am yr wybodaeth ddiweddaraf, ewch i www.curwchffliw.org.