Mae’n bleser gan Anabledd Dysgu Cymru gyhoeddi mai’r ddau berson ifanc anabl y byddwn ni’n eu cefnogi yn y Senedd Ieuenctid Cymru newydd ydy Anwen Rodaway o’r Gwyr a Katie Whitlow o Gyffordd Llandudno.

Fel Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru fe fydd Anwen a Katie yn cynrychioli pobl ifanc anabl yng Nghymru yn y Senedd Ieuenctid newydd, fydd yn cychwyn ym mis Ionawr 2019. Maen nhw’n ymuno gyda 58 o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru eraill, a gyhoeddwyd yn ystod y Sesiwn Lawn yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw. Gan adlewyrchu’r nifer o seddi yn y Cynulliad Cenedlaethol, pleidleisiwyd dros 40 Aelod yn etholiad y Senedd Ieuenctid ym mis Tachwedd 2018, ac etholwyd yr 20 Aelod arall gan bobl ifanc o gyrff partner.

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn falch o fod yn un o’r cyrff partner yma ac fe fyddwn yn cefnogi Anwen a Katie i siarad ar ran pobl ifanc anabl eraill yng Nghymru  yn y Senedd Ieuencid.

Materion Allweddol

Fe wnaethom ofyn i Anwen a Katie beth oedd y pynciau pwysicaf iddyn nhw wrth iddyn nhw ddechrau yn eu rolau fel dwy o’r Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru cyntaf erioed.

Dywedodd Anwen sydd yn 12 oed ac sy’n dod o’r Gwyr bod ganddi ‘awydd cryf i wneud gwahaniaeth i bobl ifanc yng Nghymru, ac yn enwedig yn y Gwyr. Rwy’n siarad Cymaeg ac rwy’n awtistig. Fel rheol dydy merrched ar y sbectrwm ddim yn cael eu diagnosio ac maen nhw’n cael eu tangynrychioli ac rwyf eisiau helpu i newid hynny’.

Y materion allweddol yr hoffai Anwen weithio arnyn nhw ydy:

  1. Materion amgylcheddol – lleihau’r defnydd o blastig
  2. Digartrefedd – lleihau effeithiau tlodi
  3. Awtistiaeth – gwell diagnosis/ymwybyddiaeth/dealltwriaeth

Dywedodd Katie, sydd yn 17 oed ac sy’n dod o Gyffordd Llandudno ei bod yn gyffrous i ddefnyddio ei llais i gynrychioli pobl ifanc anabl eraill. ‘Rwy’n credu’n gryf dros sicrhau bod pobl ifanc gydag anableddau yn cael y cyfleoedd maen nhw’n eu haeddu ac rwy’n gobeitho y byddaf yn gallu cynrychioli pobl ifanc gydag anableddau yn y ffordd orau.’

Y materion allweddol yr hoffai Katie weithio arnyn nhw ydy:

  1. Gwasanaeth addysg – fe fyddai’n fuddiol iawn i athrawon fod yn ymwybodol o wahanol anableddau ac adnoddau i’n cefnogi
  2. Y Gymuned – dylid cael mwy o weithgareddau i bobl ifanc gydag anableddau a mwy o sinemau a theatrau sy’n gyfeillgar i’r anabl/anabledd
  3. Hyfforddiant – wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc rwy’n teimlo y dylai unrhyw weithwyr proffesiynol gael hyfforddiant ar anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau i greu well perthynas a chyfleoedd.

Mae rhagor o wybodaeth am Anwen a Katie, a Senedd Ieuenctid Cymru ar ein tudalen prosiect Senedd Ieuenctid