Rydym yn falch o gyhoeddi ein rhaglen hyfforddi newydd ar gyfer 2019. Yn ogystal â chynnwys pob un o’n cyrsiau poblogaidd, rydym wedi parhau i wella ansawdd ac amrywiaeth ein rhaglen hyfforddi drwy ychwanegu tri chwrs pwysig newydd.

Mae cyrsiau hyfforddi Anabledd Dysgu Cymru yn ddull ardderchog o gynyddu eich gwybodaeth, datblygu sgiliau newydd ac ehangu eich profiad a’ch dealltwriaeth o anableddau dysgu.

Mae ein rhaglen hyfforddi wedi ei hanelu tuag at ddiwallu anghenion hyfforddi a datblygu gweithwyr proffesiynol, aelodau teulu/gofalwyr, gweithwyr cefnogi a phobl gydag anabledd dysgu. Rydym yn cyflogi hyfforddwyr arbenigol yn eu maes er mwyn i chi allu ymuno gyda ni mewn newid sut mae pobl yn gweithio, byw a meddwl.

Ar gyfer 2019 rydym yn cyflwyn tri chwrs newydd:

  • Gwella Cyfathrebu drwy Gyffwrdd gyda Phlant ac Oedolion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
  • Gwytnwch a Llesiant.
  • Cyflwyniad i Gefnogi Pobl Ar-lein.

Mae ein rhaglen newydd yn cynnwys pob un o’n cyrsiau poblogaidd:

  • Gwneud gwybodaeth yn Hawdd ei Ddarllen a’i Ddeall Lefel 1 a Lefel 2.
  • Iselder, Pryder a Phobl gydag Anabledd Dysgu.
  • Llesiant yn y Gweithle.
  • Deall Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth i Oedolion.
  • Deall Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth i Blant a Phobl Ifanc.
  • Perthnasau Personol a Rhywioldeb.
  • Cyflwyniad i Gefnogi Pobl Ar-lein.
  • Meddwl wedi’i Ganoli ar y Person.

Gallwn hefyd gynnig yr holl gyrsiau, neu gallwn ddatblygu cyrsiau pwrpasol i’ch corff neu brosiect, ledled Cymru.

Ac wrth gwrs, mae croeso i chi gysylltu gyda’n tîm hyfforddi a rhannu’r hyn sydd bwysicaf i chi.

Os hoffech ragor o wybodaeth eu os hoffech archebu lle ar unrhyw un o’n cyrsiau cliciwch ar y dolenni uchod, neu cysylltwch gyda Inacia Rodrigues yn Anabledd Dysgu Cymru, ffôn 029 2068 1160 neu e-bost inacia.rodrigues@ldw.org.uk.