Hawdd Ei Ddeall Cymru yn lansio gwefan newydd

Heddiw (3 Chwefror 2026), mae gwasanaeth gwybodaeth hygyrch poblogaidd Anabledd Dysgu Cymru, Hawdd ei Ddeall Cymru, wedi lansio ei wefan newydd sbon. Ar ôl misoedd o waith caled, gall tîm Hawdd ei Ddeall Cymru nawr arddangos eu gwasanaethau, eu hadnoddau a’u harbenigedd ar eu gwefan eu hunain: www.hawddeiddeall.cymru. Mae Hawdd Ei Ddeall Cymru wedi tyfu … Continued

Diwrnod Cofio’r Holocost: adnoddau hawdd eu deall a hygyrch

Heddiw ydy Diwrnod Cofio’r Holocost, cyfle i fyfyrio, dysgu a chofio’r holl bobl gafodd eu herlid a’u lladd yn ystod yr Holocost, dan erledigaeth y Natsïaid, ac mewn hil-laddiadau eraill. Mae 27 Ionawr 2026 yn nodi 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz, y gwersyll garchar a difodi Natsïaidd lle cafodd 1.1 mliwn o bobl eu lladd … Continued

Dyma gyflwyno Beth Rees, ein Swyddog Polisi a Chyfathrebu newydd

Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Beth Rees i dîm Anabledd Dysgu Cymru. Gwnaethon ni ofyn i Beth ddweud wrthon ni amdani hi ei hun a’u rôl newydd fel ein Swyddog Polisi a Chyfathrebu. Rwy’n llawn cyffro fy mod i wedi ymuno ag Anabledd Dysgu Cymru fel y Swyddog Polisi a Chyfathrebu newydd, gan weithio … Continued

Uchafbwyntiau 2024: Hawdd Ei Ddeall Cymru yn mynd o nerth i nerth

Mae 2024 wedi bod yn flwyddyn o dwf ac effaith i Hawdd Ei Ddeall Cymru. Cwblhaodd ein tîm gwybodaeth hygyrch dros 140 o brosiectau Hawdd eu Deall ar gyfer cleientiaid ledled Cymru a’r DU, gan gwmpasu pob agwedd ar fywyd – o gefnogi pobl gyda’u hiechyd, i gael mynediad at gyllid prosiect. Yn 2024, lansiodd … Continued

Croeso cynnes i ymddiriedolwyr newydd Anabledd Dysgu Cymru

Rydym yn falch iawn o groesawu 6 ymddiriedolwr newydd i’n Bwrdd Ymddiriedolwyr: Adele Rose-Morgan, Georgia Miggins, James Tyler, Jonathan Griffiths, Lynne Whistance, a Nadine Honeybone. Mae ein hymddiriedolwyr angerddol ac ymroddedig yn gyfrifol am reoli Anabledd Dysgu Cymru.  Maen nhw yn ein helpu i osod ein cyfeiriad strategol i gyflawni ein cenhadaeth i wneud Cymru … Continued

Newyddion Ffrindiau Gig Cymru

Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur iawn yn Ffrindiau Gig Cymru. Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi lansio yng Nghastell-nedd, Port Talbot ac Abertawe, ond rydyn ni wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i oedi ein gwaith ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg. Pen-y-bont ar … Continued

Stori AdFest Victoria

Bu Victoria Waller yn siarad yn Adfest Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn ddiweddar am ei phrofiad fel gwirfoddolwr cyfryngau cymdeithasol i Ffrindiau Gigiau Cymru. Mae Victoria, sy’n byw yn Ynys Môn, wedi ysgrifennu’r blog gwych hwn am ei thaith i lawr i Fae Caerdydd a’r sgwrs a roddodd hi. Roedd hi’n ddechrau cynnar, 6am! … Continued

41 Cilgant Lamboure, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GG
Ffôn 029 2068 1160 Ffacs 029 2075 2149 e-bost enquiries@ldw.org.uk
Ein partneriaid a'n cyllidwy