Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi lansio gwefan newydd hawdd ei defnyddio o’r enw AwtistiaethCymru.org / AutismWales.org (ASDinfoWales.co.uk gynt).

Er bod y wefan flaenorol yn un adnabyddus a sefydledig, ac yn darparu gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol i bobl awtistig, eu teuluoedd, rhieni/gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd, teimlai’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ei bod yn bryd i’r wefan gael ei hadfywio.

Rhwng Hydref 2019 a Ionawr 2020, rhannodd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol arolwg ar-lein yn gofyn i ddefnyddwyr y wefan, budd-ddeiliaid allweddol a rhwydweithiau am adborth am y wefan www.ASDinfoWales.co.uk.  Derbyniwyd llawer o ymateb i’r arolwg gan bobl awtistig, rhieni / gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.  Cadarnhaodd yr adborth bod lle i wella o ran profiad y defnyddiwr a gwelywio’r safle, a bod angen diweddaru rhywfaint o’r cynnwys.

Ar ddechrau 2020, cwblhaodd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol broses gaffael a chomisiynodd ddarparwr gwefan newydd.  Yn ystod mis Ebrill / Mai 2020, sefydlodd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol Fwrdd Prosiect a dau Grŵp Budd-Ddeiliaid – un ar gyfer cynnwys a’r llall ar gyfer profi. Sicrhaodd y cyfarfodydd hyn bod datblygiad y wefan newydd yn cynnwys barn a lleisiau pobl awtistig, rhieni / gofalwyr a gweithwyr proffesiynol a oedd yn gyfarwydd iawn â’r hen wefan.

Mae’r wefan newydd yn cynnwys gwell lywio a hygyrchedd, gan sicrhau bod yr wybodaeth berthnasol am awtistiaeth yng Nghymru yn hawdd dod o hyd iddi.

Adnoddau Hawdd eu Deall

Bydd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn dal i weithio gyda’u Grŵp Rhandeiliaid i wella’r cynnwys a’r adnoddau ar gael trwy’r wefan i gyd.  Dyma rai o’r meysydd y maen nhw’n edrych at ddatblygu ymhellach dros y misoedd sy’n dod:

  • Fersiynau o’r comig Archarwr Awtistiaeth a’r llyfrau stori sy’n rhyngweithiol ac wedi’u hadrodd.
  • ‘Dangosfwrdd Defnyddiwr’ i greu safle personol i’r defnyddiwr.
  • Adnoddau a dogfennau Hawdd Eu Deall
  • ‘Ardal Plant a Phobl Ifanc’.
  • Adnoddau cyflogaeth gwell.
  • Y gwaith ymchwil a’r wybodaeth ddiweddaraf.
  • Astudiaethau Achos i ganfod yr arferion da sy’n digwydd mewn gwasanaethau awtistiaeth ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Gallwch chi ymweld â’r wefan newydd yn AwtistiaethCymru.orgAutismWales.org.