Mae pobl gydag anabledd dysgu yn fwy tebygol i gael iechyd meddwl gwaeth na’r boblogaeth cyffredinol. I marcio #BlueMonday – wedi’i brandio fel diwrnod mwyaf ddigalon y flwyddyn – rydyn ni wedi casglu adnoddau defnyddiol ynglŷn â iechyd meddwl a lles, yn cynnwys canllawiau hawdd ei ddeall da.

Tra fod #BlueMonday yn cael ei ystyried gan rai i fod yn ddiwrnod mwyaf ddigalon y flwyddyn, mae hi hefyd yn bwysig cofio bod unrhyw ddiwrnod yn gallu fod yn her ar gyfer pobl gyda problem iechyd meddwl.

Mae salwch meddwl yn gyffredin, ac mae’n effeithio ar un o bob chwech oedolyn ar unrhyw un adeg (ONS 2000) ac mae ymchwil yn awgrymu bod pobl gydag anabledd dysgu yn fwy tebygol o ddatblygu salwch meddwl, gyda ffigurau yn amrywio o 25 i 40 y cant (Hatton 2002).

Mae plant gydag anabledd dysgu hefyd yn fwy tebygol o ddioddef problemau salwch meddwl na phlant heb anabledd dysgu.

Rydyn ni wedi casglu rhai adnoddau diweddar defnyddiol am iechyd meddwl, llesiant ac anabledd dysgu. Os ydych chi’n gwybod am unrhyw gyrff ac adnoddau da eraill, rhowch wybod inni os gwelwch yn dda.

Cyrsiau hyfforddi Anabledd Dysgu Cymru

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn cynnig y cyrsiau hyfforddi canlynol ar draws Cymru. Rydyn ni hefyd yn gallu darparu y cyrsiau hyn yn fewnol. I archebu neu i gael rhagor o wybodaeth cysylltwch gyda’n gweinyddydd hyfforddi, Inacia Rodrigues – e-bost Inacia.rodrigues@ldw.org.uk neu ffoniwch 029 2068 1160.

‘Teimlo’n isel: gwella iechyd meddwl pobl gydag anabledd dysgu  ‘ – adroddiad a chanllaw hawdd ei ddeall

Mae’r adroddiad manwl yma am iechyd meddwl ac anabledd dysgu gan y Sefydliad ar gyfer Pobl gydag Anableddau Dysgu wedi’i ysgrifennu i helpu i hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol drwy gynnig gwybodaeth, astudiaethau achos a phrofiadau bywyd go iawn pobl gydag anableddau dysgu a’u gofalwyr a’u strategaethau ar gyfer gwella eu llesiant meddyliol.

Fel rhan o’r adroddiad mae’r Sefydliad ar gyfer Pobl gydag Anableddau Dysgu hefyd wedi cynhyrchu canllaw hawdd ei ddeall ardderchog, Teimlo’n Isel:gwella iechyd pobl gydag anableddau dysgu sydd yn gallu cael ei ddefnyddio gyda neu heb gefnogaeth.

Mae pump rhan i’r canllaw ac mae cyngor a gwybodaeth ynddo am sut i edrych ar ôl eich hun a chael y gorau allan o fywyd.

  1. Beth ydy iechyd meddwl?
  2. Sut i gadw eich hun i deimlo’n dda
  3. Beth i’w wneud os ydych yn poeni am eich iechyd meddwl
  4. Cynllunio ymweliad i’ch meddyg teulu
  5. Pecyn Gwybodaeth Meddyg Teulu

Mae gan y Sefydliad ar gyfer Pobl gydag Anableddau Dysgy ddau o adnoddau defnyddiol hawdd eu deall eraill sydd yn gysylltiedig gyda iechyd meddwl a chadw’n iach:

 Adnoddau eraill am iechyd meddwl ac anabledd dysgu

Mae Ymddiriedolaeth Judith yn canolbwyntio ei waith ar y problemau mae pobl gydag anabledd dysgu a salwch meddwl yn eu wynebu. Mae llawer o wybodaeth, ymchwil ac astudiaethau achos defnyddiol ar eu gwefan.

Mae gan Mencap adran ddefnyddiol am iechyd meddwl ac anabledd dysgu   ar eu gwefan. Mae’n cynnwys gwybodaeth a chyngor am driniaethau defnyddiol fel therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT), therapi seicodeinamig a therapi teulu

Mae GIG Fife wedi llunio taflen i ofalwyr : ‘A Carer’s Guide to Depression in People with a Learning Disability’ (PDF).

Mae Books Beyond Words wedi cynhyrchu cyfres o lyfrau straeon hawdd eu deall am iselder ac iechyd meddwl: ‘Sonia’s Feeling Sad’, ‘Ron’s Feeling Blue’, ‘Feeling Cross and Sorting It Out’. Mae’r llyfrau yn costio £10.

‘Mindfulness for Kids with LD’. Mae Ymwybyddiaeth Ofalgar yn meddwl gallu canolbwynto ar y foment bresennol a gollwng meddyliau eraill. Mae gan y wefan The Smart Kids with Learning Disabilities yn yr Unol Daleithiau wefan dda iawn gyda chynghorion am sut y mae ymwybyddiaeth ofalgar yn gallu helpu plant gydag anabledd dysgu i reoli pwysau a phryder . Mae hefyd yn cynnwys rhestr o apiau sydd yn cael eu hargymell ar gyfer plant a phobl ifanc.

Mae Dewis Cymru yn ‘siop un stop’ ar gyfer gwybodaeth am llesiant yng Nghymru,  sydd yn darparu gwybodaeth o ansawdd gan rwydwaith o gyrff gofal cymdeithasol, iechyd a thrydydd sector ar draws Cymru.

Mae gan y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth adran ddefnyddiol ar eu gwefan am iechyd meddwl ac awtistiaeth.

Mae gan y Sefydliad Rhagoriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol (NICE) ganllaw ar ‘Problemau iechyd meddwl ymysg pobl gydag anableddau dysgu: atal, asesu a rheoli ‘.

Mae’r canllaw yma yn trafod atal, asesu a rheoli problemau iechyd meddwl ymysg pobl gydag anableddau dysgu ym mhob lleoliad (yn cynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a chyfiawnder fforensig a throseddol). Ei nod ydy gwella asesu a chefnogaeth ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl a helpu pobl gydag anableddau dysgu a’u teuluoedd a’u gofalwyr i gymryd rhan yn eu gofal.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) yn 2010, sydd yn gosod dyletswyddau cyfreithiol newydd ar fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol ynghylch asesu a thrin problemau iechyd meddwl. Mae gan Iechyd Meddwl Cymru ganllaw defnyddiol ar y ‘Mesur Iechyd Meddwl’ i bobl sydd yn defnyddio gwasanaethau a’u teuluoedd.

‘I had a black dog, his name was depression‘: Mae’r fideo animeiddio bwerus yma sydd yn cael ei hadrodd gan yr awdur a’r dylunydd Matthew Johnstone yn adrodd y stori o oresgyn ‘ci du iselder’. Mae rhagor o wybodaeth am y llyfr ar gael yn: http://matthewjohnstone.com.au.

‘STOMP: Stopping the over-medication of people with a learning disability, autism or both’. Nod yr ymgyrch iechyd meddwl yma ydy stopio’r gorddefnydd o feddyginiaeth seicotropig i reoli ymddygiad pobl. Mae’r ymgyrch wedi’i chanolbwyntio yn bennaf yn Lloegr ond mae’n berthnasol iawn i Gymru.

Cyrff defnyddiol

C.A.L.L. Llinell Gymorth – Llinell Gynghori a Gwrando Cymunedol

Llinell gymorth iechyd meddwl i Gymru ydy C.A.L.L. ac mae’n rhoi cefnogaeth emosiynol, cyfeiriadau i asiantaethau a thaflenni hunangymorth am ddim i unrhyw un yng Nghymru. Rhadffon 0800 132 737 neu tecstiwch y gair “help” i 81066. Mae’r gwasanaeth Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

The Judith Trust

Time to Change Wales

Samaritans – in your community

Mind Cymru

SANE

Rethink Mental Illness

Young Minds