Wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd am 11pm y dydd Gwener yma 31 Ionawr, mae nifer o bobl anabl yng Nghymru yn poeni am beth fydd y newidiadau yn ei olygu iddyn nhw. Rydyn ni wedi casglu gwybodaeth, cyngor ac adnoddau i helpu pobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru i ddeall beth ydy Brexit, a lle i fynd am help a chyngor.

Fe fydd nifer o feysydd yn ein bywydau yn cael eu heffeithio mewn rhyw ffordd oherwydd Brexit, yn cynnwys:

  • Cyflenwadau meddyginiaethau a dyfeisiadau meddygol
  • Teithio a hygyrchedd
  • Hawliau Cyfreithiol
  • Cyflogi Cynorthwywyr Personol o’r UE
  • Setliad dinasyddion anabl o’r UE ac yn yr UE.

Yma mae adnoddau a chyngor i’ch helpu gyda’r problemau y gall Brexit ei achosi. Os ydych yn gwybod am unrhyw wybodaeth arall sydd yn ddefnyddiol i bobl gydag anabledd dysgu e-bostiwch Kai Jones os gwelwch yn dda, Swyddog Cyfathrebu yn Anabledd Dysgu Cymru ac fe fyddwn yn ei ychwanegu at y dudalen yma.

Cwestiynau Cyffredin hawdd eu deall am sut y gallai Brexit effeithio ar bobl anabl yng Nghymru

Mae ein tîm Hawdd ei Ddeall wedi cynhyrchu fersiwn hawdd ei ddeall o’r briff yma, sydd yn rhoi atebion i gwestiynau a gasglwyd yn ystod digwyddiad yn 2019 i helpu pobl anabl a chyrff i ddeall beth y gallai Brexit ei olygu iddyn nhw. Trefnwyd y digwyddiad gan Anabledd Cymru, Prifysgol Caerdydd a  Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit. Lawrlwythwch yr adroddiad Cwestiynau Cyffredin gwreiddiol a’r feriswn hawdd ei ddeall yma.

Adnoddau eraill hawdd eu deall

Mae’r Civil Society Brexit Project yn yr Alban wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau hygyrch mewn ymgynghoriad gyda  People First (Scotland): Mae rhywfaint o’r wybodaeth yn y canllawiau am yr Alban, ond fe fydd y canllawiau yn ddefnyddiol i bobl yng Nghymru:

Cynhychodd Consortiwm Hawliau Dynol yr Alban ganllawiau hawdd eu deall yn 2017 ar hawliau pobl anabl yn yr Alban – fe fydd llawer o’r wybodaeth yn berthnasol i bobl yma yng Nghymru.

Mae’r wefan EasyRead.info wedi gwneud  tudalen we hawdd ei deall yn esbonio beth ydy Brexit , a pham bod Prydain yn gadael yr UE.

Prosiect Anabledd Cymru newydd i gefnogi pobl anabl ar ôl Brexit

Mae Anabledd Cymru wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi pobl anabl a’u paratoi nhw ar gyfer effeithiau potensial y gall gadael yr UE eu cael ar eu bywydau o ddydd i ddydd.

Fe fydd y prosiect yn:

  • Darparu cyfleoedd ymgysylltu wedi eu teilwra o amgylch anghenion pobl anabl
  • Cynhyrchu gwybodaeth a chyfeirio mewn fformatau hygyrch
  • Cynnal trafodaethau am effaith tymor hirach posibl ar feddyginaiethau, gwasanaethau a budd-daliadau.

Fe fydd y prosiect £72,000 yn rhedeg mewn partneriaeth gyda’r  Fforwm Cymdeithas Sifil Brexit ac fe fydd hefyd yn gweld sefydlu rhwydwaith polisi anabledd rhithwir.

Wrth gyhoeddi’r cyllid dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Jane Hutt, sydd yn gyfrifol am gydraddoldebau: “Nodwedd cwbl allweddol y prosiect yma ydy y bydd yn cael ei lywio gan bobl anabl, ac yn ymgysylltu gyda nhw i sicrhau bod cefnogaeth ac adnoddau wedi’u dylunio’n briodol, fel deunyddiau Hawdd eu Deall ac Iaith Arwyddion Prydeinig.”

Digwyddiadau rhanbarthol Anabledd Cymru

Fel rhan o’u prosiect newydd i gefnogi pobl anabl ar ôl Brexit mae Anabledd Cymru yn cynnal dau ddigwyddiad rhanbarthol ym mis Chwefror i bobl anabl, cyrff pobl anabl a chefnogwyr eraill i:

  • Darganfod rhagor am y trefniadau sydd yn cael eu rhoi yn eu lle gan lywodraethau’r DU a Chymru i sicrhau pontio llyfn
  • Cael dweud eich dweud am gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol
  • Helpu Anabledd Cymru i ddatblygu gwybodaeth hygyrch am Brexit a phobl anabl.

Cynhelir y digwyddiadau ar:

 

Brexit a Phobl Anabl – Uwchgynhadledd Genedlaethol

Mewn partneriaeth gyda Chanolfan Llywodraethiant Cymru a phrosiect Fforwm WCVA a gyda chefnogaeth ariannol gan Gronfa Bontio’r UE, fe fydd Anabledd Cymru yn cynnal Uwchgynhadledd Genedlaethol yng Nghaerdydd ar 13 Chwefror ar gyfer cynulleidfa wadd o arweinwyr o Gyrff Pobl Anabl a Chyrff Anabledd Cenedlaethol.

Fe fydd yr Uwchgynhadledd yn cynnwys Briffiadau Arbenigol, Panel Trawsbleidiol, Gweithdai a sesiynau Holi ac Ateb. Presenoldeb drwy wahoddiad yn unig – am ragor o wybodaeth e-bostiwch Anabledd Cymru os gwelwch yn dda: 02920 887325, e-bost Info@disabilitywales.org.

Adnoddau eraill a chyngor am Brexit i bobl anabl

Mae Llywodraeth Cymru, Anabledd Cymru, WCVA a’r cyrff a gynrychiolir ar Fforwm Cydraddoldeb Anabledd Llywodraeth Cymru, yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod gan bobl anabl fynediad i wybodaeth arbenigol yn cynnwys cyngor a chefnogaeth gyda newidiadau sydd yn effeithio arnyn nhw. Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, a dolenni pellach i wybodaeth am sut y gallai Brexit effeithio ar bobl anabl: mynediad i dechnolegau cynorthwyol, cludadwyedd Bathodyn Glas, Iechyd, Byw’n Annibynnol ac effaith ehangach Brexit.

Mae Anabledd Cymru hefyd wedi cyfrannu ac wedi ymuno gyda Maniffesto Brexit DU Hawliau Dynol. Mae’r maniffesto yn dweud beth ddylai’r sector hawliau anabledd yn y DU fod yn geisio ei gael o DU ôl UE.

Sut fydd Brexit yn effeithio ar fywydau a hawliau pobl anabl  – erthygl gan Charles Whitmore, Ymchwilydd Cyswllt yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdyddd, a Chydgysylltydd ar gyfer Fforwm Brexit Cymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal Asesiad Effaith Iechyd i ddeall yn well oblygiadau potensial Brexit ar iechyd a llesiant yn y dyfodol yng Nghymru ac mae’n edrych ar effeithiau potensial Brexit ar iechyd tymor byr, canolig a hir pobl sydd yn byw yng Nghymru.

Mae Disability Rights UK wedi creu  gwefan gyda dolenni i wybodaeth ddefnyddiol am Brexit.

Mae BBC News wedi cynhyrchu canllaw defnyddiol ar bopeth rydych chi angen ei wybod am y DU yn gadael yr UE, yn cynnwys canllaw ardderchog i jargon Brexit.

Man in overalls on a ladder removing one of the yellow stars from a gigantic EU flag. Mural is by Banksy

Ffotograff yn dangos murlun Banksy yn dangos seren yn cael ei naddu o faner yr UE.