Mae Gwelliant Cymru wedi datblygu proffil iechyd hawdd ei ddeall i bobl ag anabledd dysgu ei ddefnyddio wrth gyrchu iechyd i sicrhau bod staff yn cael y wybodaeth gywir am yr unigolyn i ddarparu’r gofal iechyd gorau sy’n diwallu anghenion yr unigolyn. 

Bydd gan y Proffil Iechyd wybodaeth am iechyd rhywun, ei anghenion gofal a chymorth a’r ffyrdd gorau o gyfathrebu â nhw. Yna gall staff iechyd a gofal ddefnyddio’r wybodaeth ynddo i ddeall a diwallu anghenion y cleifion yn well mewn apwyntiadau.

Mae’r Proffil Iechyd wedi’i gynllunio i fod mor fyr â phosibl, fel y gellir ei ddarllen yn gyflym sy’n arbennig o bwysig mewn sefyllfaoedd brys. Mae’r wybodaeth ynddo yn cynnwys:

  • Gwybodaeth bersonol a chyswllt brys
  • Hanes meddygol
  • Alergeddau
  • Meddyginiaethau, gan gynnwys unrhyw gymorth sydd ei angen i’w cymryd
  • Addasiadau rhesymol sydd eu hangen
  • Y ffordd orau i gyfathrebu.

Mae’n bwysig bod y ddogfen yn cael ei hadolygu a’i diweddaru’n rheolaidd, yn enwedig pan fydd unrhyw newid i feddyginiaeth.

Hefyd, bydd canllawiau i deuluoedd a gofalwyr a chanllawiau i weithwyr iechyd proffesiynol yn cael eu cyhoeddi. Os nad yw staff yn gofyn am gael gweld proffil iechyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn sôn amdano fel y gall eu cynorthwyo.

Datblygwyd y proffil ar ôl adolygiad ymchwil gan Brifysgol De Cymru, a oedd yn cynnwys grŵp ffocws gyda phobl ag anableddau dysgu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. 

Dywedodd yr Athro Ruth Northway, a ddatblygodd yr offeryn mewn partneriaeth â Gwelliant Cymru: “Mae pobl ag anableddau dysgu yn parhau i brofi marwolaethau cynamserol a phroblemau iechyd y gellir eu hosgoi oherwydd amrywiaeth o rwystrau sy’n cyfyngu ar eu mynediad i ofal iechyd.

“Mae cyfathrebu yn rhwystr allweddol, pan fydd pobl ag anableddau dysgu yn ymweld ag ysbyty neu leoliad meddygol, gallant ei chael hi’n anodd mynegi eu hunain a chael y gofal sydd ei angen arnynt. Nod y Proffil Iechyd yw helpu i fynd i’r afael â hyn drwy ddarparu gwybodaeth allweddol i staff gofal iechyd.

Dywedodd Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Cymru: “Bydd hyn yn ein galluogi i wella ansawdd y gofal iechyd y bydd pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru yn ei dderbyn. Rwy’n disgwyl i bob darparwr gofal iechyd groesawu a defnyddio’r offeryn newydd hwn, er mwyn gwella’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu ar gyfer ein cymuned.

Mae’r proffil iechyd ar gael ar wefan Gwelliant Cymru.

Help i lenwi’r proffil iechyd

Mae Dawn Gullis o Cardiff People First yn cynnig help i bobl lenwi’r proffil iechyd newydd os oes angen cymorth arnynt.  Mae Dawn hefyd yn rhedeg Grŵp Iechyd dydd Mawrth rhwng 1.00 a 2.00 ar zoom i bobl ag anabledd dysgu ddod draw. Mae ganddynt siaradwyr i siarad am faterion iechyd fel gofalu am eich llygaid a maeth. Cysylltwch â Dawn trwy e-bost: Dawn@cardiffpeoplefirst.org.uk