Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Gwelliant Cymru, sy’n rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn awgrymu bod pobl yng Nghymru sydd ag anableddau dysgu yn fwy tebygol o farw o Coronafeirws na gweddill y boblogaeth.

Fe wnaeth yr adroddiad ‘Marwolaethau sy’n gysylltiedig â COVID-19 yng Nghymru ymhlith Pobl ag Anableddau Dysgu’ ddadansoddi data presennol o 1 Mawrth i 19 Tachwedd 2020. Mae’r astudiaeth yn diweddaru adroddiad blaenorol a gyhoeddwyd gan Gwelliant Cymru ym mis Medi 2020, oedd yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Mawrth a 26 Mai 2020.

Prif ganfyddiadau’r adroddiad yw:

  • Gan fod pobl ag anableddau dysgu yn aml yn destun mwy o anghydraddoldebau iechyd na’r boblogaeth ehangach, gallant fod yn arbennig o agored i niwed Coronafeirws.
  • Mae cymharu â marwolaethau coronafeirws ymhlith holl drigolion Cymru yn awgrymu bod y ffigur hwn dair i chwe gwaith yn uwch mewn pobl ag anableddau dysgu, na’r boblogaeth gyfan.
  • Mae’r cynnydd hwn ym marwolaethau Coronafeirws yn adlewyrchu’r marwolaethau cynyddol uwch o achosion eraill nad ydynt yn achosion Coronafeirws, sydd wedi cael eu profi gan bobl ag anabledd dysgu.
  • O’r tua 15,600 o bobl yng Nghymru a nodwyd ag anabledd dysgu, bu farw o leiaf 52 o’r bobl hyn o Coronafeirws rhwng 1 Mawrth a 19 Tachwedd 2020.
  • Mae’r rhai a nodwyd yn debygol o fod yn bobl ag anableddau dysgu cymharol ddifrifol a’r rhai â statws iechyd corfforol cymharol wael.

Nododd yr astudiaeth tua 15,600 o unigolion ag anabledd dysgu drwy edrych ar y diagnosisau maen nhw wedi’u derbyn yn ystod arosiadau ysbyty dros eu hoes hyd yma.

Mae’r canfyddiadau’n awgrymu bod cyfradd y marwolaethau sy’n ymwneud â COVID-19 yn uwch ymhlith pobl ag anableddau dysgu. Ymhlith pobl dan 60 mlwydd oed, mae’r gyfradd marwolaethau amrwd sy’n ymwneud â Coronafeirws yn llawer uwch ymhlith pobl ag anabledd dysgu.

Mae’r adroddiad yn nodi nad yw defnyddio derbyniadau i’r ysbyty yn debygol o nodi pawb ag anableddau dysgu yng Nghymru. Ar yr un pryd, efallai na fydd pobl sy’n cael eu nodi gan y dull hwn yn hysbys i wasanaethau anableddau dysgu arbenigol.

Mae’r adroddiad hefyd yn rhybuddio y gall defnyddio’r dull hwn fod yn rhagfarnllyd tuag at nodi pobl ag anableddau neu gyflyrau dysgu cymharol ddifrifol y gellir eu nodi’n hawdd neu gyflyrau sy’n gysylltiedig ag anableddau dysgu. Er y bydd y dull hwn yn rhagfarnllyd tuag at bobl sydd ag iechyd cymharol wael, yn annibynnol ar eu hanabledd dysgu.

Dywedodd Dr Rachel Ann Jones, Arweinydd Rhaglen Anableddau Dysgu yn Gwelliant Cymru: “Mae’r adroddiad hwn yn ddarn hanfodol o waith parhaus i dynnu sylw at yr anghydraddoldebau iechyd a welwn mor aml gyda phobl ag anableddau dysgu.

“Mae’r adroddiad hwn yn hanfodol bwysig o ran cynnal y ffocws ar wella bywydau pobl ag anabledd dysgu nawr ac yn y dyfodol.”

Dywedodd Zoe Richards, Prif Weithredwr Anabledd Dysgu Cymru: “Rydyn ni’n meddwl am deuluoedd pobl ag anabledd dysgu sydd wedi marw ar ôl dal Covid-19. Mae’r adroddiad hwn yn dangos pa mor bwysig yw amddiffyn pobl ag anabledd dysgu rhag Coronafeirws. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi diweddaru eu canllawiau i frechu mwy o bobl sydd mewn perygl yng ngrŵp blaenoriaeth 6.”

Canllawiau newydd yn blaenoriaethu mwy o bobl ag anabledd dysgu ar gyfer eu brechlyn

Bydd canllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru yn golygu bod mwy o bobl ag anabledd dysgu yn cael eu cynnwys yng ngrŵp blaenoriaeth 6.

Darllenwch ein herthygl yn esbonio pwy fydd yn cael eu cynnwys, sut y bydd pobl yn cael eu nodi, ble fydd pobl yn mynd am y brechlyn, beth sy’n digwydd nesaf, cyngor a chymorth (gan gynnwys hawdd eu deall) ac mae sefydliadau sydd wedi gweithio gyda’i gilydd i gynorthwyo dull mwy cynhwysol.