I nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl rydym wedi creu canllaw hawdd ei ddeall newydd i helpu pobl ag anableddau dysgu i edrych ar ôl eu hiechyd meddwl.

Mae pobl ag anableddau dysgu yn llawer mwy tebygol o brofi iechyd meddwl gwael. Ond mae yna ddiffyg gwybodaeth hawdd ei ddeall, i helpu pobl deall materion iechyd meddwl a beth i’w wneud amdanynt.

Mae’r canllaw hwn yn gyflwyniad i ddeall y materion iechyd meddwl mwyaf cyffredin – iselder a gor-bryder. Rydym yn nodi y math o driniaeth y dylid ei chynnig i bobl yng Nghymru pan fyddant yn mynd i weld eu meddyg teulu.

Rydym hefyd yn darparu rhai awgrymiadau ar sut y gall pawb ofalu am eu hiechyd meddwl yn well, hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw problem iechyd meddwl. Mae’n bwysig bod pobl yn cymryd amser i ofalu am eu hiechyd meddwl a dod o hyd i’r help briodol iddyn nhw. Rydyn ni i gyd yn wahanol ac mae pethau gwahanol yn gweithio i wahanol bobl.

Yn y dyfodol byddwn yn darparu adnoddau pellach am iechyd meddwl a lles, gan gynnwys gwybodaeth am gyflyrau iechyd meddwl eraill. Gobeithio bod y canllaw hwn wedi bod yn ddefnyddiol i chi. Rhowch wybod i ni os oes unrhyw wybodaeth arall yr hoffech ei gweld.

Dolenni