Ar 31 Mai 2021 fe fydd yn ddeng mlynedd ers sgandal erchyll Winterbourne. Dadlennodd y sgandal y potensial o gam-drin pobl gydag anableddau dysgu sydd yn byw mewn Unedau Asesu a Thriniaeth. A’r peth mwyaf gwarthus oedd na wnaeth yr arolygiaethau sylwi ar y cam-drin.

Ers i raglen Panorama’r BBC ddarlledu’r rhaglen ar Winterbourne View, gwelwyd achosion proffil uchel pellach o gam-drin mewn lleoliadau gofal yn Lloegr fel yn achos Whorlton Hall yn Swydd Durham. Mae achosion pellach fel Mendip House yng Ngwlad yr Haf (lleoliad gofal preswyl) yn dangos y ffaith nad ydy’r problemau yma wedi cael eu cyfyngu i Unedau Asesu a Thriniaeth. Does dim gwersi wedi eu dysgu o Winterbourne.

Ar 14 Ionawr 2013, cyhoeddodd Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, ddatganiad gweinidogaethol yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau na fyddai sefyllfa debyg yn digwydd yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda’r Grŵp Cynghori ar Anabledd Dysgu a darpariaethau yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i gyflwyno fframwaith cyfreithiol clir ar gyfer amddiffyn oedolion yng Nghymru yn ogystal â chyflwyniad Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol. Ond, mae llawer o bobl gydag anableddau dysgu yn parhau i gael eu lleoli allan o sir ac allan o Gymru. Cyn belled ag y mae hyn yn wir, ni allwn ddweud yn bendant ‘nad oes yr un Winterbourne yng Nghymru’.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

  1. Gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Iechyd Cymru i olrhain y nifer o bobl gydag anabledd dysgu sydd yn cael eu gosod mewn unrhyw leoliad preswwyl y tu allan i’w cymunedau lleol neu y tu allan i Gymru.
  2. Ymrwymo i weithio gyda phartneriaid allweddol ar strategaeth i sicrhau ein bod yn gallu dod â phobl gydag anabledd dysgu sydd wedi cael eu rhoi mewn gwasanaethau preswyl allan ou hardaloedd yn ôl yn agos at eu teuluoedd a’u ffrindiau os mai dyma ydy eu dymuniad.
  3. Amlinellu pa warantau sydd ganddynt fod pobl gydag anabledd dysgu yn derbyn adolygiadau gofal rheolaidd a bod y rhain yn cael eu harwain gan Gymru
  4. Mesur pa fynediad sydd gan bobl gydag anableddau dysgu i wasanaethau eiriolaeth a sut mae’r wybodaeth yn cael ei fwydo i Lywodraeth Cymru.
  5. Darganfod faint o bobl gydag anableddau dysgu sydd â chynlluniau rhyddhau ac a oes cynlluniau digonol yn cael eu gwneud i symud pobl gydag anableddau yn ôl i’w cymunedau lleol.
  6. Ymrwymo i gyflogi pobl gydag anabledd dysgu a’u gofalwyr teulu mewn adolygiadau arolygu o leoliadau gofal.

Consortiwm Anabledd Dysgu

Mae’r Consortiwm Anabledd Dysgu yn cynnwys sefydliadau trydydd sector cenedlaethol sy’n gweithio yng Nghymru i hyrwyddo hawliau pobl ag anabledd dysgu a’u gofalwyr teulu. Mae’r aelodaeth yn cynnwys y Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Cymorth Cymru, Cymdeithas Syndrom Down, Anabledd Dysgu Cymru, a Mencap Cymru.