Ar 17 Mai 2021, mynychodd dros 100 o bobl ddigwyddiad ar-lein i rannu’r canfyddiadau cyntaf yng Nghymru o astudiaeth Covid DU gyfan ar effaith y pandemig ar bobl gydag anabledd dysgu. Mae rhagor o wybodaetrh am yr astudiaeth ar y wefan (Saesneg yn unig): www.covid19learningdisabilities.co.uk.

Trefnwyd y digwyddiad gan y 5 corff oedd yn rhan o’r astudiaeth ymchwil yng Nghymru: Anabledd Dysgu Cymru, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Fe wnaethom glywed gan bobl gydag anabledd dysgu, gofalwr teulu a gweithiwr cefnogi mewn coleg preswyl. Fe wnaethom hefyd glywed gan yr ymchwilwyr yng Nghymru a amlinellodd y canfyddiadau Cymreig.

Crynodeb o’r canfyddiadau Cymreig

Rhannodd yr Athro Stuart Todd ac Edward Oloidi o Brifysgol De Cymru a Dr Stephen Beyer o Brifysgol Caerdydd benawdau o’r adroddiad ymchwil hawdd ei ddeall. Roedd 149 o bobl gydag anabledd dysgu wedi cael eu holi am eu profiadau o’r pandemig. Lle nad oedd yn bosibl i unigolion rannu eu profiadau eu hunain, roedd 77 o ofalwyr teulu neu weithwyr cefnogi wedi cwblhau arolwg ar-lein hefyd ar ran y bobl maen nhw’n eu cefnogi

Roedd iechyd yn bryder mawr. Dywedodd tua hanner y bobl a holwyd bod ganddyn nhw gyflwr iechyd oedd yn eu gwneud yn bryderus ynghylch dal coronafeirws. Roedd 4 allan o bob 5 yn cymryd meddyginiaeth tra bod 2 o bob 5 yn dweud eu bod yn gweld eu meddyg yn aml cyn y pandemig. Mae hyn yn ein hatgoffa bod pobl gydag anabledd dysgu yn fwy tebygol o fod yn profi iechyd gwael o’i gymharu â’r boblogaeth yn gyffredinol.

Dywedodd dwy ran o dair o’r bobl a holwyd eu bod wedi gallu cadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau mor aml ag roedden nhw eisiau. Roedd pobl yn darganfod ffyrdd gwahanol o gadw mewn cysylltiad drwy blatfformau ar-lein ac apiau fel Zoom etc. Ond tra eu bod yn llwyddo i gadw mewn cysylltiad, roedd nifer yn teimlo nad oedd yr un fath â gweld pobl wyneb yn wyneb a dywedodd 1 o bob 3 eu bod wedi teimlo’n unig neu yn bryderus y rhan fwyaf neu’r holl amser yn ystod yr ychydig wythnosau cyn y cyfweliad. Dywedodd 1 o bob 5 eu bod yn teimlo’n drist neu yn ddagreuol y rhan fwyaf neu’r holl amser.

Ar y pwnc cyflogaeth, roedd gan 1 o bob 4 swydd cyn y cyfnod clo. Roedd hanner y bobl hynny yn dal i weithio tra bod 1 o bob 3 ar ffyrlo neu bod eu swyddi’n cael eu cadw ar agor iddyn nhw. Dywedodd hanner eu bod yn poeni am beth roedd y pandemig yn ei feddwl o ran eu rhagolygon gwaith yn y dyfodol.

Profiadau pobl gydag anabledd dysgu

Rhannodd Catherine “Mae wedi bod yn flwyddyn galed ac o’r cychwyn roeddwn yn teimlo’n ofnadwy. Roedd gen i lawer o broblemau iechyd ac mae fy iechyd meddwl wedi dioddef. Roedd gen i broblemau gyda fy esgidiau arbennig oedd yn golygu nad oeddwn yn gallu cerdded yn iawn.” Ychwanegodd bod hyn a’i hapwyntiadau ar gyfer ei chlyw wedi cymryd amser hir i’w datrys. Roedd ei phroblemau clyw yn golygu bod ei hannibyniaeth wedi cael ei effeithio. Cyn y pandemig roed yn mynd ar ei phen ei hun i’w hapwyntiadau ysbyty ond yn fwy diweddar roedd ei mam wedi gorfod mynd gyda hi gan nad oedd yn gallu clywed beth oedd yn cael ei ddweud.

Mae Louise yn byw mewn anecs mewn cartref gofal ac mae’n eithaf annibynnol ond mae angen rhywfaint o gymorth. Roedd bywyd yn  eithriadol o anodd iddi yn ystod y cyfnod clo gan fod ganddi broblemau iechyd isorweddol ac roedd wedi bod yn gwarchod. Doedd Louise chwaith ddim yn gallu mynd i’r prif dŷ. Yn ystod y cyfnod clo roedd staff yn dod i’w anecs mewn PPE llawn, gwneud beth oedd angen ei wneud ac yna’n gadael. Doedden nhw ddim yn gallu gwneud ymweliadau llesiant ac roedd yn colli hyn. Roedd hi yn ofnadwy o unig ac yn dibynnu’n drwm ar ei X-Box, cyfrifiadur, iPad, galwadau ffôn a chyfleoedd crefft. Dydy bywyd ddim yn ôl i normal iddi eto. Mae rheolau’r tŷ yn dal yn llym. Mae ei rhieni yn gallu ymweld yn yr ardd yn unig ond dywedodd “mae’n teimlo fel ymweliad carchar a dydw i ddim wedi gwneud unrhyw beth o’i le”.

Effaith ar deuluoedd

Siaradodd Pauline Young, Cadeirydd ymddiriedolwyr Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan am effaith methu gallu gweld ei mab sydd yn byw mewn llety gyda chefnogaeth, arni hi a gweddill y teulu. Mae e’n angen sicrwydd parhaus fod ei deulu yn ei garu, ei angen ac yn gallu ei weld. Mae’n ei chael yn anodd ymgysylltu’n llawn drwy Zoom. Oherwydd methu gweld ei deulu wyneb yn wyneb mae ei iechyd meddwl wedi dioddef fel ag y gwnaeth iechyd meddwl gweddill ei deulu

Mae tri chwarter y teuluoedd mae’r Fforwm yn eu cefnogi wedi dioddef problemau iechyd meddwl yn y cyfnod yma. Doedden nhw ddim yn cael unrhyw seibiant ac roedden nhw’n dioddef yn wirioneddol. Ychwanegodd Pauline, “Mae pryder gwirioneddol am ba mor hir dymor fydd hyn ac awydd gwiroineddol i ddatgloi’r niwed sydd yn dal i gael ei  wneud. Mae iechyd meddwl pawb wedi dioddef ac mae pobl yn poeni am sut y bydd pethau yn y dyfodol. Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a llywodraeth leol yn deall bod pobl gydag anabledd dysgu wedi dioddef yn ddrwg yn y cyfnod yma.”

Persbectifau staff cefnogi

Mae Oliver, arweinydd tîm mewnh coleg i bobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth wedi gweithio drwy gydol y pandemig. Mae’r effaith ar iechyd meddwl myfyrwyr wedi bod yn enfawr. Gwnaethpwyd y difrod ar ddechrau’r pandemig gyda rheolau blanced. Roedd hyn yn golygu nad oedd teuluoedd yn gallu ymweld ac roedd myfyrwyr yn ddibynnol ar Zoom a Skype i gadw mewn cysylltiad. Mae gan nifer broblemau synhwyraidd ac angen cysylltiad teulu felly dydy dewisiadau ar-lein ddim wedi ateb eu hanghenion yn llwyr. Does gan rai mygfyrwyr ddim y gallu ac maen nhw’n methu deall y cyfyngiadau ac wedi beio’r staff am fethu gweld eu teuluoedd neu mynd allan neu ar deithiau yn y car. Mae hyn wedi golygu bod perthnasoedd rhwng y staff a myfyrwyr wedi dioddef

Yn y gorffennol, roedd staff wedi gweithio ar ddatblygu sgiliau cymdeithasol gyda’r myfyrwyr. Oherwydd y cyfnod clo doedd y myfyrwyr ddim yn gallu mynd i’r gymuned ac felly wedi colli hyder mewn ymgysylltu gyda phobl y tu allan i’r coleg. Roedd cadw pellter cymdeithasol a gwisgo mygydau yn anodd iddyn nhw hefyd.

Bu lefel uchel o absenoldeb staff. Roedd y defnydd cynyddol o PPE yn creu anawsterau gan fod rhai myfyrwyr yn dibynnu ar ystumiau wyneb ac iaith corff i gyfathrebu. Roedd y staff yn gefnogol o’i gilydd ac yn dangos lefel uchel o wytnwch. Roedd gan y myfyrwyr gyfleoedd i archwilio eu hemosiynau ac mae dealltwriaeth pawb o iechyd meddwl wedi gwella.

Rob Symons ydy rheolwr Able Radio, cwmni cyfryngau a hyfforddi i bobl gydag anabledd dysgu ac awtistiaeth. Ar 17 Mawrth 2020 roedd Covid yn ymddangos yn bell ac eto yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw dywedwyd y byddai’r gwasanaethau yn cau o’r diwrnod canlynol. Aeth y staff ar ffyrlo a gwnaeth y rheolaeth eu gorau i gadw mewn cysylltiad gyda phawb drwy weithgareddau. Esboniodd Rob “mae llawer o ystyriaeth wedi ei roi i’r risg i iechyd corfforol yn ystod y cyfnod clo ond nid i  effaith ar iechyd meddwl. Roedd llawer o bobl yn dioddef gydag ynysigrwydd ac yn methu gwneud gweithgaredau y tu allan i’r tŷ.”

Mae Able Radio yn ôl i gapasiti o 50% nawr.  Mae angen gwell arweiniad i wasanaethau dydd nawr gan eu bod wedi eu gadael i drafod pob pwynt sengl gyda’r awdurdod lleol. Mae hyn yn groes i’r hyn sydd yn digwydd gydag agor siopau, bwytai a sinemau.

Cwestiynau a’r camau nesaf

Daeth y sesiwn i ben gyda sesiwn Holi ac Ateb. Gofynnodd un cyfranogwr a oedd yr ystadegau ynghylch llesiant yn wahanol i’r boblogaeth yn gyffredinol? Esboniodd yr Athro Stuart Todd, pan gafodd y cwestiynau eu dyfeisio, roedd yr ymchwilwyr wedi adolygu cwestiynau a holwyd mewn arolygon eraill fel bod modd cymharu’r atebion yn y dyfodol a dydy’r cymariaethau yma ddim eto wedi eu gwneud.

Gofynnodd cyfranwyr eraill pryd y byddai gwasanaethau dydd awdurdodau lleol yn ailagor. Roedd yn amlwg o’r ymatebion bod hyn yn amrywio’n fawr ar draws Cymru ond roedd un awdurdod lleol yn defnyddio’r cyfle i gynnal adolygiad wedi’i ganoli ar y person i weld pa ddarpariaeth roedd pobl ei eisiau yn y dyfodol.

Daeth Rhan 2 o’r astudiaeth i ben ar 23 Mai. Cynyddodd y bobl gydag anableddau dysgu a holwyd o 149 i 184 ac fe gadwyd 85% o’r cyfranogwyr o Ran 1 o’r astudiaeth. Cwblhaodd 51 o ofalwyr teulu neu weithwyr cefnogi arolwg ar-lein ar ran pobl gydag anabledd dysgu. Fe fydd Rhan 3 o’r astudiaeth yn dechrau yng nghanol Mehefin. Ni fyddwn yn recriwtio pobl newydd i’r rhan yma o’r astudiaeth felly dim ond y cyfranogwyr blaenorol fydd yn cael gwahoddiad i gymryd rhan

Cynhelir digwyddiad arall ar 21 Mehefin i roi diweddariad pellach o’r astudiaeth, ond y prif ffocws fydd ar ddylanwadu ar ddatblygiad polisi yn y dyfodol. Fe fydd cyd-gadeiryddion Grŵp Cynghori Gweinidogion ar Anabledd Dysgu (LDMAG) a chynrychiolwyr o adrannau perthnasol Llywodraeth Cymru yn mynychu’r digwyddiad. Mae pobl wedi dweud wrthym bod bywyd wedi bod yn anodd ond gyda’r cymorth cywir gall wella ac rydym eisiau sicrhau bod canfyddiadau’r ymchwil yma yn helpu i ffurfio polisi ac arfer ar draws Cymru yn y dyfodol.