Mae Anabedd Dysgu Cymru wedi cyflwyno ymateb i ymgynghoriad Llywodraethy Cymru ar Strategaeth ar gyfer cymdeithas sydd yn heneiddio:Cymru Oed Gyfeillgar.

Yn ein hymateb roeddem yn pwysleisio’r angen i gynnwys pobl gydag anabledd dysgu mewn cynlluniau i wneud Cymru yn wlad oed gyfeillgar. O ran pobl hŷn gydag anableddau dysgu, mae’n bwysig edrych ar eu hanghenion penodol yn ogystal ag ar y rhesymau pam maen nhw’n tueddu i farw cymaint yn iau na’r boblogaeth yn gyffredinol. Codwyd manterion penodol oedd yn cynnwys yr angen i wneud gwiriiadau iechyd blynyddol ar gael i bob person gydag anabledd dysgu. Mae pobl gydag anabledd dysgu yn llawer llai tebygol o fod mewn gwaith cyflogedig ac maen nhw hefyd yn sylweddol dlotach na phobl eraill.

Anogwn Llywodraeth Cymru i ddelio gyda’r materion rhyng-gysylltiedig yma yn ogystal â thai, gwell cefnogaeth i ofalwyr a chynhwysiant digidol i sicrhau bod pobl gydag anabledd dysgu yn gallu tyfu’n hŷn a chael y gefnogaeth gywir pan maen nhw’n gwneud hynny.

Mae’r ymateb llawn i’r ymgynghoriad ar gael yma: Ageing Society Response LDW (PDF yn Saesneg). Os hoffech yr ymateb yma mewn fformat arall neu yn Gymraet, e-bostiwch grace.krause@ldw.org.uk