Mae’n bleser gan Anabledd Dysgu Cymru gyhoeddi mai’r ddau berson ifanc anabl y byddwn yn eu cefnogi yn y Senedd Ieuenctid Cymru nesaf ydy Georgia Miggins, o Abertawe, a Tegan Skyrme, o Sir Benfro.

Georgia is wearing a blue red and white striped jumper and has blond hair in a pony tail, Tegan is wearing a brown hoody and has short cropped blond hair

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn falch o fod yn gweithio gyda Senedd Ieuenctid Cymru am ail dymor fel corff partner. Fe fyddwn yn cefnogi Georgia a Tegan i siarad yn y Senedd Ieuenctid ar ran pobl ifanc anabl eraill yng Nghymru. Fe fydd yr ail Senedd Ieuenctid Cymru yn rhedeg o Ionawr 2022 i Rhagfyr 2023.

Gan adlewyrchu dyluniad y Senedd, mae Senedd Ieuenctid Cymru yn cynnwys hyd at 60 o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru. Mae pobl ifanc ar draws Cymru wedi bod yn pleidleisio yn ddiweddar am y 60 o bobl ifanc rhwng 11-18 oed a fydd yn aelodau o’r Senedd Ieuenctid nesaf. Detholwyd 40 o’r rhain drwy’r brif broses etholiad tra bod y 20 arall wedi’u dewis gan bobl ifanc o gyrff partner, yn cynnwys Anabledd Dysgu Cymru.

Heddiw mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi cyhoeddi enwau’r 60 o Aelodau newydd Senedd Ieuenctid Cymru. Gallwch weld pwy fydd yn ymuno gyda’r Senedd Ieuenctid Cymru newydd ar eu gwefan.

Roedd ein proses ymgeisio yn cynnig 3 dewis i bobl ifanc anabl oedd eisiau dod yn aelodau o’r Senedd Ieuenctid nesaf. Fe wnaethom dderbyn ceisiadau mewn ysgrifen, ar fideo neu ar recordiad sain i sicrhau bod y broses mor hygyrch â phosibl. Yna cafodd yr holl geisiadau eu hastudio a’u trafod gan banel o bobl ifanc anabl er mwyn gwneud y detholiad terfynol.

Bu’n benderfyniad anodd gan fod yr holl bobl ifanc a ymgeisiodd wedi mynegi eu hunain yn dda iawn ac roedd yn amlwg bod ganddyn nhw lawer i’w gynnig fel eiriolwyr pobl ifanc anabl ar draws Cymru. Bu’r adborth gan y panel yn hynod o gadarnhaol a’r farn oedd y gallai unrhyw un o’r ymgeiswyr wneud aelodau Senedd Ieuenctid ardderchog. Roedd sylwadau yn cynnwys “angerddol”, “agored a gonest” “hyderus” a “gofalu am eraill”.

Georgia Miggins – Aelod Senedd Ieuenctid Cymru

Mae Georgia yn 17 oed. Mae’n awtistig ac yn credu’n angerddol am godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ymysg merched a chynyddu cynrychiolaeth pobl anabl mewn cymdeithas. Dywedodd Georgia, “Rydw i’n gwybod pa mor bwysig ydy i rhywun gydag anableddau deimlo eu bod wedi eu hysbrydoli a chael eu cynrychioli pan maen nhw’n gweld rhywun  fel fi  sydd ag anabledd fel nhw yn y rôl yma yn Senedd Ieuenctid Cymru”. Mae hefyd yn awyddus i godi materion am iechyd meddwl a diffyg cyfleoedd hamdden addas i bobl ifanc.

Tegan Skyrme – Aelod Senedd Ieuenctid Cymru

Mae Tegan, 15, yn dod o Sir Benfro ac mae eisiau sicrhau bod pobl ifanc sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru yn cael llais. Mae nam ar olwg Tegan ac mae’n teimlo’n angerddol dros gynrychioli hawliau pobl ifanc anabl. Yn ei fideo ymgeisio dywedodd Tegan, “Rwyf yn gwybod yn rhy dda sut deimlad ydy peidio cael digon o’r gefnogaeth gywir mewn ysgolion a hefyd mewn bywyd o ddydd i ddydd. Rwy’n gwybod hefyd sut brofiad ydy cael fy nhrin yn wahanol oherwydd fy anabledd a hefyd am fod yn aelod o’r gymuned LHDTQ+, sydd yn grŵp arall y byddwn yn hynod o falch o’i gynrychioli.”

Fe wnaeth Sam Williams, Rheolwraig Polisi a Chyfathrebiadau gydlynnu’r broses ymgeisio ac  esboniodd cymaint o brofiad cadarnhaol fu hynny: “Roedd yn hyfryd derbyn cymaint o geisiadau gwych gan amrediad o bobl ifanc anabl ar draws Cymru. Roeddwn yn falch nad oedd rhaid imi wneud y penderfyniad terfynol gan eu bod i gyd mor ardderchog!” Ychwanegodd, “Llongyfarchiadau mawr i Georgia a Tegan. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r ddwy ohonoch a gobetihio y byddwch yn elwa or profiad unigryw yma.”

Hoffem ddiolch i’r holl bobl ifanc am wneud cais a dymunwn y gorau iddyn nhw i’r dyfodol. Hoffem ddiolch hefyd i’r panel am roi o’u hamser i fynd drwy’r ceisiadau a gwneud y penderfyniad terfynol anodd iawn.

Fe fyddwn yn rhannu datblygiad Georgia a Tegan fel Aelodau’r Senedd Ieuenctid ar ein gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol dros y 2 flynedd nesaf. I ddarganfod rhagor am Senedd Ieuenctid Cymru, yn cynnwys manylion am yr holl 60 o Aelodau newydd, ewch i’w gwefan