I nodi Diwrnod Hawliau Dynol y Byd mae Anabledd Dysgu Cymru, ynghyd â dros 150 o grwpiau ar draws y DU, wedi arwyddo llythyr agored (PDF) i’r Prif Weinidog, Boris Johnson, yn ei herio i sicrhau ein Deddf Hawliau Dynol a diogelu Hawliau Dynol ac atebolrwydd democrataidd.

Darllenwch fersiwn hawdd ei ddeall o’r llythyr yma (Saesneg) (PDF).

Mae’r cyrff sydd yn ymuno gydag Anabledd Dysgu Cymru i wneud yr alwad yma yn cynnwys y rhai sydd yn gweithio gyda phlant, gofalwyr, pobl gydag anableddau dysgu a salwch iechyd meddwl, menywod yn profi trais, mewnfudwyr, pobl hŷn a grwpiau yn ymgyrchu dros hawliau LHDTQ+, treialon teg, mynediad i gyfiawnder, tai gweddus ac yn erbyn gahaniaethu ar sail hil a chynyddu atebolrwydd democrataidd y DU yma gartref.

Yn ein gwaith amrywiol ar draws y wlad rydym yn gweld y ffyrdd y mae ein Hawliau Dynol yn helpu pobl i fyw bywydau mwy urddasol a chyfartal; pobl gyffredin y mae eu lleisiau yn rhy aml yn cael eu hanwybyddu gan y rhai gyda grym.

Dydy’r galwadau croch i chwarae gyda’n Hawliau Dynol, yn aml gan y rhai mewn llywodraeth gyda’r cyfrifoldeb i gynnal ein hamddiffyniadau, yn gwneud fawr i dawelu meddwl grwpiau hawliau sifil, a’r nifer o bobl a gefnogwn ac a gynrychiolwn. Nodwn yr wythnos yma bod yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Dominic Raab wedi ailddatgan ei fwriad i ymgynghori ar ddyfodol ein cyfraith, er nad yw eto wedi cyhoeddi adroddiad yr Adolygiad Annibynnol o’r Ddeddf Hawliau Dynol.

Ni all yr awyrgych yma o elyniaeth tuag at hawliau dynol ac atebolrwydd cyfreithiol yn y DU barhau. Gyda’n gilydd rydym yn galw ar y Prif Weinidog ac arweinwyr pob plaid wleidyddol i “symud oddi wrth ramantu bod yn arloeswyr hawliau dynol ym 1948 ac ymrwymo i amddiffyniadau ein Deddf Hawliau Dynol fod yn rhan o fywyd pawb, bob dydd, heddiw ac yfory”.

Isod mae fideo o’r llythyr hawdd ei ddeall yn cael ei ddarllen:

Dywedodd Sanchita Hosali, Cyfarwyddwr Sefydliad Prydeinig Hawliau Dynol, y corff sydd yn cydlynnu’r llythyr:

“Wrth i’r DU gymryd rhan yn fwrdfrydig yn Uwchgynhadledd dros Ddemocratiaethy yr Arlywydd Biden, mae’n amser i’n Prif Weinidog hefyd edrych tuag at adref. Ni all yr awyrgylch elyniaethus tuag at hawliau dynol ac atebolrwydd barhau; os ydym yn genedl sydd yn gwerthfawrogi democratiaeth rhaid inni hefyd werthfawrogi’r gwiriadau ar bŵer.”

“Yn BIHR os ydym yn gweithio gyda meddygon a nyrsus, plant a rhieni, athrawon neu swyddogion carchar, menywod yn goroesi camdriniaeth, pobl gydag anableddau dysgu a nifer o rai eraill. Yr hyn a welwn bob dydd ydy gwerth ac ystyr gwirnioneddol ein Deddf Hawliau Dynol i bobl ar draws y DU.”

“Yn hytrach na gormodiaith a rhethreg yn ymylu ar wleidydda chwythu’r chwiban, rydym angen llywodraeth sydd yn fodlon sefyll i fyny dros ein Deddf Hawliau Dynol, ein dull o’u galw i gyrfif. Wrth inni weithio’n galed i liniaru effaith y pandemig – argyfwng lle mae ein Deddf Hawliau Dynol wedi darparu amddiffyniadau hanfodol – rydym yn sefyll gyda dros 150 o gyrff eraill yn galw am fyd lle mae ein harweinwyr gwleidyddol yn symud o ramanteiddio  bod yn arloeswyr hawliau dynol ym 1948 ac ymrwymo i’n hawliau fod yn rhan o fywyd beunyddiol pawb, bob dydd, heddiw ac yfory. Mae’n sialens a anogwn Mr Johnson i’w derbyn.”