Image shows a selfie of a woman with shoulder length blonde hair and a pink hooded top

Rydym ni’n falch iawn o groesawu Lucy O’Leary, ein Cydlynydd Digwyddiadau a Rhwydweithiau newydd, i dîm Anabledd Dysgu Cymru. Fe wnaethom ni ofyn i Lucy ddweud wrthym ni amdani hi ei hun, a’i rôl newydd.

Rydw i wedi ymuno â’r tîm digwyddiadau yn Anabledd Dysgu Cymru yn ddiweddar, gan weithio ochr yn ochr â Simon ac Iwan. Fy rôl i yw cefnogi, trefnu a chydlynu ein digwyddiadau, gan gynnwys ein cynhadledd flynyddol.

Cyn gynted ag y gwelais i’r hysbyseb swydd, mi wyddwn y byddai’n rôl y byddwn i wrth fy modd gyda hi! Mae gan fy chwaer Syndrom Williams felly rydw i wedi tyfu fyny yn gywbod am y gwahaniaeth cadarnhaol mae elusennau yn gallu ei gael ar berson ag anabledd dysgu.

Dim ond am amser byr rydw i wedi gweithio yma, ond mae’n amlwg pa mor ymrwymedig ydy’r tîm cyfan. Rydw i’n teimlo’n freintiedig iawn cael gweithio i sefydliad lle gallaf gyfuno agweddau rydw i wir yn angerddol drostyn nhw tra’n rhoi fy amser i helpu eraill.

Mae fy nghefndir ym maes digwyddiadau ac ar hyn o bryd rwy’n gwirfoddoli fel Ysgrifennydd clwb ar gyfer fy nhîm pêl-droed lleol yn ogystal â Chadeirydd Cymdeithas Rhieni Athrawon fy mab. Mae gen i dri mab ifanc sy’n fy nghadw i’n brysur iawn y tu allan i’r gwaith Byddwch yn aml yn fy ngweld yn sefyll yn gwylio eu gemau pêl-droed neu eu gemau criced.