Rydym yn falch o gyhoeddi ein Cydgysylltwyr Prosiect newydd a fydd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni ein prosiect Ffrindiau Gigiau newydd yng Ngogledd Cymru. Rydym am roi croeso cynnes a chyfeillgar Ffrindiau Gigiau i Heather Graham a Rachel Somerville!

Ffrindiau Gigiau yw prosiect cyfeillio Anabledd Dysgu Cymru. Mae’n mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol drwy baru oedolion ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth â gwirfoddolwr sydd â diddordebau tebyg fel y gallant fynd i gigiau a digwyddiadau gyda’i gilydd.

Bydd Heather a Rachel yn cydlynu’r prosiect yng Ngogledd Cymru, sy’n cynnwys recriwtio, paru a chefnogi Ffrindiau Gigiau newydd, hyrwyddo’r prosiect, a’i helpu i dyfu ledled Gogledd Cymru. Mae Heather a Rachel yn ychwanegiad i’w groesawu at ein tîm Ffrindiau Gigiau, gan ymuno â Kai Jones a Kylie Smith, ein Cydgysylltwyr Prosiect yn Ne Cymru, a Rheolwr Prosiect Lyndsey Richards, sy’n goruchwylio prosiectau’r gogledd a’r de.

Mae gan Heather lawer o brofiadau o wirfoddoli, gan gynnwys gwirfoddoli i’r elusennau Barnardo’s ac Autism Initiatives, ac mae wedi siarad yn Senedd Ieuenctid Cymru, yn y Senedd, yng Nghaerdydd. Cyn gweithio i Ffrindiau Gigiau, bu Heather yn gweithio i gwmni glanhau o’r enw Yn Llanelwy.

Mae Heather wrth ei bodd yn “cerdded a chyfarfod â ffrindiau ac yn mynd i gaffis. Rwyf wrth fy modd yn gwrando ar gerddoriaeth roc/grynj yn enwedig Nirvana. Rwyf hefyd wedi bod i weld y Foo Fighters ar gyfer fy mhen-blwydd yn 18 – cyngerdd cofiadwy iawn.”

Dywedodd Heather ei bod “yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Ffrindiau Gigiau ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Rachel. Rwy’n siŵr y cawn ni lawer o hwyl yn gweithio ar y prosiect. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn cael sefydliad fel Ffrindiau Gigiau gan fod cynifer o oedolion ag anableddau dysgu yn colli cyfleoedd i fynd i ddigwyddiadau oherwydd diffyg cefnogaeth, felly mae cael Ffrindiau Gigiau yn wych.”

Mae Rachel wedi gweithio i brosiect Mencap Cymru Ein Rhwydweithiau Cymdeithasol yn y gorffennol, sydd wedi bod yn cofnodi hanes a natur cyfeillgarwch a pherthynas agos y mae pobl ag anableddau dysgu sy’n byw yng Nghymru yn eu profi heddiw.

Mae Rachel yn dweud bod ei hobïau “gan amlaf yn yr awyr agored gan fy mod wrth fy modd yn cerdded, beicio a gwersylla. Rwy’n hoff iawn o gerddoriaeth ddawns a byddaf yn dawnsio yn fy nghegin gyda’r Alexa’n uchel yn eithaf aml! Rwyf hefyd wrth fy modd yn canu. Dwi’n colli eistedd ac ymlacio mewn caffis gan fy mod i’n ffan enfawr o lattes sbeis pwmpen. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn unrhyw beth creadigol, yn enwedig paentio, therapïau celf ynghyd â therapïau awyr agored. Ac rwyf hefyd wrth fy modd gyda bwyd a byddwn yn medru gwylio’r sianeli bwyd am oriau!”

Dywedodd Rachel: “Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o dîm Ffrindiau Gigiau, yn enwedig yng Ngogledd Cymru, o le dwi’n dod. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau arni, gweithio gyda Heather a thîm anhygoel Ffrindiau Gigiau a gweld ble mae’r daith hon yn mynd â ni. Rwy’n siŵr ei fod yn mynd i fod yn llawer o hwyl!”

Yn dilyn tair blynedd lwyddiannus yn ehangu Ffrindiau Gigiau ledled De Cymru, mae Anabledd Dysgu Cymru wrth ei fodd yn lansio Ffrindiau Gigiau ar draws pob un o’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru – Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.  Mae hyn yn bosibl diolch i gyllid gan Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf (sydd hefyd yn ariannu Ffrindiau Gigiau yn Ne Cymru) a phrosiect Trawsnewid Gogledd Cymru.

Dywedodd Lyndsey Richards, Rheolwr Prosiect Ffrindiau Gigiau: “Rwy’n falch iawn o fod mewn sefyllfa i dreialu Ffrindiau Gigiau yng Ngogledd Cymru. Bu awydd mawr i ni fynd â’r prosiect i Ogledd Cymru a diolch i Tai Dewis Cyntaf a’r Gronfa Trawsnewid Anabledd Dysgu mae hyn yn bosibl erbyn hyn. Rwyf hefyd wrth fy modd i fod yn gweithio gyda grŵp llywio i lunio datblygiadau’r prosiect ac mae’n anodd credu y byddem wedi gwneud cymaint hyd yn hyn hebddynt. Mae’n bleser cael croesawu dau aelod newydd i dîm Ffrindiau Gigiau – Rachel a Heather, ein cydlynwyr newydd yng Ngogledd Cymru – ac rwy’n teimlo’n gyffrous iawn am ddyfodol Ffrindiau Gigiau yng Nghymru gyfan.”

Sut i ymuno â Ffrindiau Gigiau yng ngogledd Cymru

Bydd Ffrindiau Gigiau Gogledd Cymru yn cael ei lansio’n swyddogol ym mis Tachwedd yng nghynhadledd flynyddol Anabledd Dysgu Cymru, Pawb, ar ddydd Gwener 20 Tachwedd. Fodd bynnag, mae ceisiadau ar gyfer Ffrindiau Gigiau eisoes ar agor:

Rydym yn chwilio am

Neu am ragor o wybodaeth ynghylch gwaith Ffrindiau Gigiau, cysylltwch â’n tîm Ffrindiau Gigiau: e-bost gigbuddies@ldw.org.uk neu ffoniwch 029 2068 1160.

Heather and Rachel smiling

Heather Graham a Rachel Somerville – Ffrindiau Gigiau Gogledd Cymru