Rydym wedi cael ymateb arbennig i’n Cynhadledd Flynyddol Pawb, sydd ar-lein ac yn rhad ac am ddim, ac mae’r tocynnau i gyd bron â gwerthu.

Mae archebu cyffredinol yn cau heddiw, ond bydd yn aros yn agored i bobl sydd ag anabledd dysgu. Rhowch y gair ar led gyda’ch teulu, cyfeillion, a phobl yr ydych yn gofalu amdanynt a’u cynorthwyo ynghylch ein cynhadledd gyffrous.

Ar ôl heddiw bydd y llefydd am ddim ar gael yn unig i bobl sydd ag anabledd dysgu

Mae hwn yn gyfle i bobl sydd ag anabledd dysgu i gymryd rhan mewn digwyddiad cynhwysol, hygyrch a hwyliog, sydd eleni yn trafod sut allwn leihau unigedd ac arwahanrwydd.

Mae’r holl sesiynau yn Pawb yn hygyrch, rhyngweithiol ac addas i bobl sydd ag anabledd dysgu, teuluoedd a gofalwyr, a phobl sy’n gweithio mewn iechyd neu ofal cymdeithasol.

Mae’r holl sesiynau am ddim i’w harchebu ac yn cynnwys popeth o ddysgu am brosiectau newydd a pholisïau newydd pwysig, i ffitrwydd, boreau coffi, drama a chanu.

Dyma flas ar rai o’n sesiynau rhad ac am ddim:

  • Brew-it – bore coffi gyda Flintshire Do-It
  • Datgelu’r seren roc oddi mewn ynoch gyda Rockbox – sesiwn ffitrwydd gan CanDo Hub
  • Drama ryngweithiol gan Hijinx Theatre
  • Dysgu gan Whizz Kidz in the lead! gan Carp Collaborations

Porwch ein gwefan i ddod o hyd i’r sesiwn berffaith i chi, am ddim – a mynnwch eich lle yn rhad ac am ddim yma!

#PawbADC
9 – 20 Tachwedd 2020
Sesiynau am 10 am, 11 am a 2 pm
Digwyddiad ar-lein

Audience at a Learning Disability Wales conference, some are raising their hands to ask a question
OLYMPUS DIGITAL CAMERA