Mae adroddiad gan Gydffederasiwn GIG Cymru sydd yn amlygu’r cysylltiadau rhwng yr argyfwng costau byw ac anghyfartaleddau yng Nghymru wedi ei gefnogi gan Anabledd Dysgu Cymru, ynghyd â 49 o gyrff trydydd sector eraill yng Nghymru.

Beth ydy’r adroddiad ‘Mind the Gap’

Mae’r adroddiad, ‘Mind the Gap: beth sydd yn atal newid? Yr argyfwng costau byw ac anghyfartaleddau yng Nghymru’, wedi ei gynhyrchu gan Gydffederasiwn GIG Cymru a Choleg Brenhinol y Meddygon.

Mae ‘anghyfartaleddau iechyd’ yma yn golygu faint o broblemau iechyd sydd gan bobl ar draws gwahanol grwpiau. Er enghraifft, mae gan bobl o wahanol gefndiroedd neu mewn gwahanol ardaloedd lefelau gwahanol o broblemau iechyd o’i gymharu gyda grwpiau eraill.

Gwyddom bod pobl gydag anabledd dysgu yn cael eu heffeithio yn ddrwg gan anghyfartaleddau iechyd ac mae ganddyn nhw ddisgwyliadau oes llawer gwaeth na’r boblogaeth yn gyffredinol. Hyd yn oed cyn y pandemig Coronafeirws a’r argyfwng costau byw roedd pobl gydag anabledd dysgu yn cael amser llawer caletach wrth geisio cael gofal iechyd a gwasanaethau eraill sydd yn gallu gwella eu iechyd. Enghraifft amlwg o hyn ydy’r trafferth mae pobl gydag anabledd dysgu yn ei gael wrth gael mynediad i sgrinio iechyd a gwasanaethau meddygol eraill (tudalen 72).

Nawr mae’r adroddiad newydd yma yn dangos bod y pandemig Covid-19 wedi gwneud anghyfartaleddau iechyd yn llawer gwaeth i nifer o bobl. Mae hyn yn golygu bod y rhai oedd eisoes yn dlawd ac yn cael trafferthion yng Nghymru bellach yn debygol o fod hyd yn oed yn waeth eu byd, ac fe fydd yr argyfwng costau byw parhaus yn cael effaith hyd yn oed yn waeth arnyn nhw

Am beth maer’r adroddiad yn gofyn?

Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni set o bethau penodol er mwyn delio gydag anghyfartaleddau iechyd yng Nghymru,Mae’r adroddiad yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru:

  • Blaenoriaethu cau’r bwlch gweithredu ar iechyd a llesiant i oedolion a phlant
  • Darparu canllaw manylach ar weithredu i gyrff darparu lleol
  • Nodi gweithgaredd cyfredol ar iechyd cyhoeddus, anghyfartaleddau, lleihau tlodi a sicrwydd cymdeithasol
  • Cyflwyno rheoliadau asesiadau effaith iechyd fel blaenoriaeth
  • Cadarnhau ymrwymiadau ar anghyfartaledd mewn un cynllun cyflawni i wella atebolrwydd
  • Datblygu set o fesurau perfformiad yn canolbwyntio ar leihau anghyfartaleddau
  • Sicrhau bod cyllido yn annog cydweithredu a’i fod yn gysylltiedig gyda delio gydag anghyfartaleddau
  • Gwella mynediad i raglenni atal wedi’u lleoli mewn gofal sylfaenol a chymunedol, yn enwedig i’r rhai sydd yn byw mewn tlodi
  • Buddsoddi mewn atal arloesol yn cynnwys rhaglenni sgrinio, brechlynnau a thechnoleg
  • Gwella mynediad i ddata cadarn o ansawdd uchel i fesur unrhyw newid mewn anghyfartaleddau
  • Ei gwneud yn ofynnol i fyrddau partneriaeth rhanbarthol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus ddelio gydag anghyfartaleddau

Beth arall a gredwn sydd yn bwysig?

Yn Anabledd Dysgu Cymru rydym yn llwyr gefnogi’r argymhellion yma. Mae pobl gydag anabledd dysgu yn haeddu cael yr un cyfleoedd i fyw bywydau llawn a hapus â phawb arall. Yn ychwanegol at yr argymhellion yma, rydym yn pwysleisio’r angen i weithredu gwiriadau iechyd blynyddol i bobl gydag anabledd dysgu. Gwyddom o’n hymchwil ein hunain bod nifer anghymesur o bobl gydag anabledd dysgu wedi cael trafferth i dderbyn gofal iechyd yn ystod y pandemig. Mae digon o dystiolaeth hefyd i ddangos bod gwiriadau iechyd blynyddol yn effeithiol o ran lleihau’r nifer o bobl gydag anabledd dysgu sydd yn marw o afiechydon y gellid fod wedi eu hatal.

Galwn hefyd ar Lywodraeth Cymru i gymryd gweithrediad y Fframwaith Addysgol Anabledd Dysgu i Staff Gofal Iechyd. Yn rhy aml dydy pobl gydag anabledd dysgu ddim yn derbyn y gofal maen nhw ei angen oherwydd nad ydy staff gofal iechyd wedi eu hyfforddi i gyfathrebu gyda phobl ag anabledd dysgu. Fe fydd y canllaw newydd yma yn delio gyda rhai o’r problemau y mae hyn yn ei achosi