Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio fframwaith addysgol newydd i staff gofal iechyd i sicrhau bod pobl gydag anabledd dysgu yn derbyn y gofal gorau posibl

Beth ydy’r Fframwaith Addysgol Anabledd Dysgu i staff Gofal Iechyd?

Nod y Fframwaith ydy amlinellu’r wybodaeth, sgiliau a chymwyseddau y mae staff mewn gofal iechyd eu hangen i ddarparu’r gofal gorau i bobl gydag anabledd dysgu. Fe fydd hyn gobeithio yn ei gwneud yn haws i bobl gydag anabledd dysgu gael mynediad cyflym i ofal iechyd o ansawdd da a gwneud nhw a’u teuluoedd yn fwy hyderus y bydd staff gofal iechyd yn eu trin yn dda. Mae’r Fframwaith hefyd yn nodi ffyrdd y gall rheolwyr, gweithwyr a chyrff unigol gynllunio a chefnogi’r addysg gywir i staff gofal iechyd a sicrhau bod pawb yn gallu cael yr addysg angenrheidiol i roi’r gofal cywir i bobl gydga anabledd dysgu.

Beth mae Sefydlad Paul Ridd yn ei feddwl o’r Fframwaith?

Fe wnaethom holi Sefydliad Paul Ridd am eu barn ynghylch y Fframwaith newydd roedden nhw wedi ymladd mor hir a chaled amdano. Dywedodd Rheolwraig yr Elusen, Bridget Robinson wrthym: “Rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda’r GIG yng Nghymru a gyda Llywodraeth Cymru i gynhyrchu’r Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Anabledd Dysgu yma. Ers marwolaeth Paul yn 2009 rydym wedi gweithio’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth o’r anghyfartaleddau y mae pobl gydag anabledd dysgu yn eu wynebu wrth gael mynediad i ofal iechyd. Mae’r hyfforddiant yma yn garreg filltir inni ei chyrraedd, gan y bydd rhaid i bob person sydd yn gweithio yn y GIG bellach dderbyn Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anabledd Dysgu Paul Ridd.

Fe fydd yr adnawdd yma yn rhoi rhywfaint o ymwybyddiaeth i staff o’r rhwystrau y mae pobl gydag anabledd dygsu yn eu wynebu wrth gael mynediad i ofal iechyd ac fe fydd yn darparu’r offer i oresgyn y rhwystrau yma.

Edrychwn ymlaen i ddatblygu’r hyfforddiant yma ymhellach a’i ehangu gyda’r ail a thrydydd haenau.”

Mae’r Fframwaith cyfan ar gael yn y fformatau yma (mae pob ffeil yn agor fel PDF)

Hawdd ei ddeall Saesneg

Hawdd ei ddeall Cymraeg

Dim yn Hawdd ei Ddeall Saesneg

Dim yn Hawdd ei Ddeall Cymraeg.