Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllaw newydd ar ‘Gofal Iechyd Parhaus y GIG’ (GIP) yng Nghymru. Mae’r canllaw hwn ar gyfer oedolion ag anghenion cymhleth a allai fod yn gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus y GIG a’u teuluoedd neu ofalwyr.

Gweithiodd Llywodraeth Cymru mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid a Hawdd ei Ddeall Cymru i ddatblygu’r canllawiau Saesneg plaen a hawdd eu deall. Yn anffodus, gohiriwyd y gwaith hwn oherwydd pandemig COVID-19 ond rydym ni’n falch iawn o weld bod y canllawiau bellach wedi’u cyhoeddi a’u bod ar gael i bobl eu defnyddio.

Pam fod angen y canllawiau hyn?

Nod y canllawiau yw grymuso pobl gyda’r wybodaeth maen nhw ei hangen i eirioli drostyn nhw eu hunain, neu’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt, i sicrhau eu bod nhw’n cael y gofal a’r cymorth mae ganddyn nhw hawl iddynt.

Gall fod yn anodd deall y broses GIP, eich hawliau a sut i hawlio cefnogaeth GIP. Efallai y bydd angen cymorth ar rai pobl gan y GIG i ddiwallu eu hanghenion gofal iechyd ac efallai y byddant angen cymorth hefyd gan eu hawdurdod lleol i ddiwallu eu hanghenion gofal cymdeithasol. Os ydych chi’n gymwys am GIP, bydd eich Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol am dalu am eich pecyn gofal cyfan. Mae hyn yn golygu y bydd y GIG yn talu am eich gofal iechyd a’ch gofal cymdeithasol.

Mae cytuno ar y cydbwysedd rhwng cyfrifoldebau awdurdodau lleol a’r gwasanaeth iechyd mewn perthynas â gofal hirdymor yn aml wedi bod yn heriol. Mae hyn weithiau wedi arwain at oedi yng ngofal pobl ac wedi gadael teuluoedd yn nhir neb.

Mae pobl sy’n derbyn Taliadau Uniongyrchol hefyd wedi wynebu heriau ychwanegol o ran GIP, gan nad yw Byrddau Iechyd Lleol yn gallu darparu pecynnau gofal GIP gan ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol. Nid yw hyn bob amser yn cael ei esbonio’n llawn i bobl a’u teuluoedd, gan arwain at ddryswch a rhwystredigaeth posibl.

Gall yr heriau hyn wneud y broses GIP hyd yn oed yn anoddach i bobl ei llywio a’i deall, a dyna pam mae’r canllawiau newydd hyn mor bwysig.

Beth mae’r canllawiau yn ei gwmpasu?

Bydd y canllawiau yn helpu pobl i ddeall:

  • Beth yw Gofal Iechyd Parhaus y GIG
  • Pwy sy’n gymwys ar gyfer GIP
  • Sut mae’n cael ei asesu
  • Sut mae’n cael ei drefnu.

Mae gwybodaeth yn y canllawiau am yr hyn sy’n digwydd pan mae GIP yn cael ei ddarparu yn eich cartref eich hun, mewn cartref gofal neu mewn cartref gofal gyda nyrsio, a sut y gallai effeithio ar eich budd-daliadau a’ch Taliadau Uniongyrchol.

Mae gwybodaeth hefyd yn y canllawiau am:

  • Sut i gael asesiad GIP
  • Sut y dylid gwneud asesiadau
  • Sut mae cymhwysedd yn cael ei benderfynu
  • Eich hawl i eiriolaeth
  • Sut i gwyno neu herio penderfyniadau
  • Sut y dylai eich awdurdod lleol a’ch Bwrdd Iechyd Lleol eich cefnogi drwy’r broses.

Mae 1 canllaw Cymraeg clir i GIP a’r 5 llyfryn Hawdd eu Deall canlynol:

  1. Beth ydy Gofal Iechyd GIG Parhaus?
  2. Canllaw hawdd ei ddeall i asesiadau GIP
  3. Canllaw hawdd ei ddeall ar gymhwysedd GIP
  4. Sut mae GIP yn cael ei drefnu?
  5. Beth sy’n digwydd os nad ydw i’n gymwys i gael GIP?

Mae system Gofal Iechyd Parhaus y GIG i fod i gael ei dylunio fel bod y person yn cael ei roi wrth wraidd y broses. Dylai pobl gymryd rhan lawn yn y broses o wneud penderfyniadau, rhaid deall eu hanghenion a dylid cyfathrebu’n glir drwyddi draw.

Gallwch ddod o hyd i’r holl ganllawiau Cymraeg clir a hawdd eu deall ar Ofal Iechyd Parhaus y GIG ar wefan Llywodraeth Cymru.