A group of Gig Buddies at a gig, infront of a circus tent

Fe wnaeth ein rhwydwaith Connections Cymru gyfarfod yn ddiweddar i weld sut y gall presgripsiynu cymdeithasol fod o fudd i bobl ag anabledd dysgu. Roedd y digwyddiad yn cynnwys agenda llawn enghreifftiau a safbwyntiau am bresgripsiynu cymdeithasol o bob rhan o Gymru.

Nod Connections Cymru yw cydweithio i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol i bobl ag anabledd dysgu. Ar 29 Mawrth 2023 daethom â dros 40 o bobl ynghyd i edrych ar y cyfleoedd amrywiol y gall pobl ag anabledd dysgu eu cael o bresgripsiynu cymdeithasol, a’r hyn y gallwn ni ei wneud i oresgyn y rhwystrau sy’n atal pobl rhag manteisio arno.

Beth yw presgripsiynu cymdeithasol?

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn ddull personol sy’n cysylltu pobl â gweithgareddau, grwpiau a gwasanaethau yn eu cymuned i ddiwallu’r anghenion ymarferol, cymdeithasol ac emosiynol sy’n effeithio ar eu hiechyd a’u lles. Er ei fod wedi bod o gwmpas ers cryn amser ac yn weithgar mewn rhai ardaloedd, mae canfyddiad mai dim ond trwy feddyg teulu y gellir cael mynediad ato a’i fod yn bennaf er mwyn helpu pobl ag anghenion iechyd meddwl.

Mae modelau gwahanol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol, ond mae’r rhan fwyaf yn cynnwys gweithiwr cyswllt neu ‘lywiwr cymunedol’ sy’n gweithio gyda phobl i gael mynediad at ffynonellau cymorth lleol. Mae rhai o’r rhain wedi’u lleoli yn y trydydd sector, wedi’u cyflogi gan gynghorau gwirfoddol sirol.

Fframwaith Llywodraeth Cymru

Dr Ruth Northway, o Brifysgol De Cymru (PDC), oedd ein siaradwr cyntaf, a dechreuodd drwy siarad am gyfraniad Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anabledd Dysgu i fframwaith cenedlaethol Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol. Mae fideo ar wefan Llywodraeth Cymru sy’n rhoi cyflwyniad defnyddiol i bresgripsiynu cymdeithasol a’r fframwaith arfaethedig. Cynhaliwyd y cyfnod ymgynghori rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2022 a disgwylir i’r ddogfen derfynol gael ei chyhoeddi yr haf hwn. Cyflwynodd Anabledd Dysgu Cymru ymateb i’r ymgynghoriad (PDF).

Ydy pobl ag anabledd dysgu yn manteisio ar bresgripsiynu cymdeithasol?

Aeth Dr Northway ymlaen i ddweud mai prin yw’r dystiolaeth am y defnydd o bresgripsiynu cymdeithasol gan bobl ag anableddau dysgu. Efallai mai’r rhesymau am hyn yw bod pobl yn manteisio ar wasanaethau a chymorth nad ydynt o reidrwydd wedi’u labelu fel presgripsiynu cymdeithasol neu efallai na fydd pobl yn cael eu nodi neu nad ydynt yn yn hunan-nodi fel rhai sydd ag anabledd dysgu. Mae Dr Simon Newstead o USW yn cynhyrchu geirfa o dermau a ddefnyddir ym maes presgripsiynu cymdeithasol ac mae fersiwn hawdd ei ddeall hefyd yn cael ei chynhyrchu.

Y sefyllfa yng Ngogledd Cymru

Rhannodd Mark John-Williams, o Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd, wybodaeth a gasglwyd y llynedd am bresgripsiynu cymdeithasol yng Ngogledd Cymru. Dywedodd Mark fod y gwasanaeth yn amrywiol ar draws y rhanbarthau gydag enwau a dulliau gwahanol, er nad yw’r holl wasanaethau yn hygyrch nac ar gael i bobl ag anabledd dysgu. Hefyd, nid oes digon o gefnogaeth i gyrchu grwpiau neu weithgareddau.

Soniodd Mark am drafnidiaeth wael a diffyg lleoedd newid yng Ngogledd Cymru, a’r angen i weithio mwy cyd-gysylltiedig rhwng y gwasanaeth cysylltwyr a’r gwasanaethau anabledd dysgu a’r gymuned. Mae angen i’r gwasanaeth fod ar gael i bawb, ac nid yn seiliedig ar labeli, tra bod angen i wybodaeth ac iaith fod yn hygyrch.

Dywedodd Mark fod angen i bresgripsiynu cymdeithasol fod yn fwy na gwasanaeth cyfeirio yn unig ac efallai y bydd angen cymorth ychwanegol i gael mynediad i grwpiau neu weithgareddau. Dylid rhannu enghreifftiau o arfer da sy’n cynnwys pobl ag anabledd dysgu, ac mae angen gwneud gwaith ar ddull datblygu cymunedol lle mae pobl yn mynd o ‘fod yn bresennol’ i ‘gyfrannu’ yn eu cymunedau.

Yn olaf, cododd Mark gynnig hanfodol y gallai pobl ag anabledd dysgu fod yn gweithio neu’n gwirfoddoli mewn rolau cysylltwyr cymunedol neu rolau cyfeillio.

Cyfeirio Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr

Esboniodd Gail Devine, Cyfeiriwr Cymunedol Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr, sut roedd rhagnodi cymdeithasol yn gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Maen nhw’n cyflog 8 cyfeiriwr cymunedol. Un o’r bobl sy’n elwa yw Melanie, a ymunodd â Ffrindiau Gigiau Cymru ac sydd bellach â Ffrind Gigiau i fynd allan i gymdeithasu gyda hi, yn ogystal â gwneud ffrindiau newydd a bod yn rhan o’r gymuned Ffrindiau Gigiau ehangach.

Grow Well

Fe wnaethom hefyd glywed gan Grow Well, prosiect garddio yng Nghaerdydd lle mae atgyfeiriadau yn dod o iechyd a gofal cymdeithasol. Maen nhw’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau ond nid ydynt o reidrwydd yn ei hyrwyddo fel ‘garddio’ oherwydd mae’n fwy am gael paned o de ac eistedd i lawr gydag eraill i sgwrsio a mwynhau’r gerddi.

Mae pobl yn cael eu cyfeirio at y prosiect am sawl rheswm gan gynnwys ynysu cymdeithasol, colli rôl ar ôl ymddeol, pryder ac iselder, profedigaeth, cyfrifoldebau gofalu, byw gyda chyflyrau iechyd cronig, straen, hyder a hunan-barch isel, diffyg rhwydwaith teulu/cymdeithasol neu wella o gyflwr iechyd. Mae pobl ag anabledd dysgu yn rhan o’r prosiect ond nid ydynt o reidrwydd yn uniaethu â ‘label’.

Trafodaethau grŵp

Cafodd pobl a oedd yn bresennol yn y cyfarfod gyfle i fynd i grwpiau i drafod manteision, rhwystrau a beth arall y gellir ei wneud i gynyddu mynediad at bresgripsiynu cymdeithasol i bobl ag anabledd dysgu.

Beth yw manteision presgripsiynu cymdeithasol i bobl ag anabledd dysgu?

Gall cyflwyniad i 1 grŵp neu weithgaredd fod fel ‘carreg mewn pwll, ‘gan ei fod yn gallu arwain at gyfleoedd eraill. Nid oes gan bobl bob amser y gallu i wneud hunan-ymchwil am y gweithgareddau sydd ar gael felly gall presripsiynu cymdeithasol helpu gyda hyn. Mae manteision eraill yn cynnwys:

  • Llai o arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd
  • Iechyd meddwl gwell
  • Gall arwain at fywyd mwy cyflawn
  • Ffordd organig o wneud ffrindiau a rhwydweithiau cymorth, ac i gael bywyd cymdeithasol
  • Cynyddu hyder a helpu i ddatblygu sgiliau newydd
  • Mae presgripsiynu cymdeithasol yn canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Mae’n rhoi ymdeimlad o berthyn, cyfraniad a phwrpas i bobl
  • Mae cael pobl ddi-dâl ym mywyd person yn bwysig.

Mae Ffrindiau Gigiau yn enghraifft dda o sut y gall presgripsiynu cymdeithasol helpu i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol. Mae aelodau Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan wedi datblygu cyfeillgarwch newydd, wedi magu hyder a sgiliau, ac wedi ennill bywyd cymdeithasol gwych.

Beth yw’r rhwystrau?

  • Nid yw’r broses atgyfeirio yn hysbys i rai, neu mae’n amrywio’n fawr ym mhob rhanbarth.
  • Mae’n anodd cyfrifo faint o bobl ag anabledd dysgu sy’n cael eu cefnogi fel hyn gan y gallent fod yn cyrchu heb ‘bresgripsiynu cymdeithasol’.
  • Mae rhwystrau sefydliadol yn gysylltiedig ag agweddau gwrth-risg.
  • A oes gan feddygon teulu yr amser, yr ymwybyddiaeth a’r ddealltwriaeth? Rydym ni eisoes yn gwybod am y problemau gydag archwiliadau iechyd blynyddol felly a fydd ganddynt amser i bresgripsiynu cymdeithasol?
  • Yn aml, nid oes digon o adnoddau gan elusennau sy’n rhedeg grwpiau neu weithgareddau ac maen nhw’n dibynnu ar godi arian.

Nodwyd bod trafnidiaeth yn rhwystr sylweddol bosibl. Er mwyn manteisio ar weithgareddau cymunedol prif ffrwd mae angen cludiant da ar bobl ond mae hyn yn aml yn anodd. Gall trafnidiaeth gyhoeddus fod yn anghyson, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac yn aml nid yw’n rhedeg yn hwyr gyda’r nos. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dim ond rhwng 10am a 2pm mae trafnidiaeth gymunedol ar gael felly mae hyn yn cyfyngu ar yr hyn y gall pobl ei fynychu. Cafwyd problemau hefyd gyda chael tocynnau bws gan ei bod yn ymddangos bod y meini prawf cymhwysedd wedi newid yn ddiweddar heb esboniad.

Mae diffyg gwybodaeth hygyrch a materion cyfathrebu hefyd yn rhwystrau. Pan na fydd pobl yn cael eu clywed, gall gymryd amser iddynt fod yn agored a siarad am yr hyn maen nhw am ei wneud neu pa sgiliau sydd ganddynt felly mae angen i hyn fod yn rhan o’r broses. Weithiau, nid yw’r broses yn effeithiol i bobl, ac nid yw’n cyrraedd y bobl a’r lleoedd iawn. Mae rhai pobl ag anabledd dysgu yn gwybod beth yw presgripsiynu cymdeithasol ond nid ydynt bob amser yn cydnabod mai dyna oedd yr hyn yr oeddent eisoes yn ei gyrchu. Mae angen sicrhau bod gwybodaeth fwy hygyrch (e.e. hawdd ei deall) ar gael i bobl. A allai fod cronfa ddata o weithgareddau y gall pobl eu cyrchu?

Nid yw pob gweithgaredd cymdeithasol yn rhad ac am ddim, a gall hyn ei gwneud yn anodd i bobl gymryd rhan. Er enghraifft, os yw meddyg teulu yn presgripsiynu mynd i’r gampfa, yna mae cost i hynny. Mae angen i bobl allu cyrchu mwy o weithgareddau cymunedol am ddim.

Gall diffyg cefnogaeth addas hefyd fod yn rhwystr. Mae angen cymorth ar rai pobl i fynd i weithgareddau neu i deithio ac nid yw pawb yn cael y gefnogaeth honno pan fyddan nhw ei angen. Fodd bynnag, gall cyfeirwyr cymunedol helpu pobl gyda’r ychydig ymweliadau cyntaf â grŵp newydd fel y gallant ddod i arfer ag ef.

Gan weithio gyda’n gilydd, beth allwn ni ei wneud i helpu mwy o bobl ag anabledd dysgu i fanteisio ar bresgripsiynu cymdeithasol?

Rydym ni angen mwy o drafnidiaeth gymunedol. Mae angen i bob un ohonom fod yn gweithio gyda phartneriaid trafnidiaeth fel y Gymdeithas Cludiant Cymunedol. Mae Mark John-Williams yn gweithio gyda’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yng Ngogledd Cymru a phartneriaid i geisio cael mwy o amrywiaeth mewn trafnidiaeth gymunedol.

Mae angen i ni rwydweithio gyda sefydliadau eraill. Mae angen i ni wneud mwy o fapio cymunedol i weld beth sydd ar gael ac yna gweithio gyda’n gilydd.

Clywodd y grŵp fod angen gwybodaeth fwy hygyrch ar bresgripsiynu cymdeithasol, er enghraifft mewn modd hawdd ei deall, tra bod angen i ni gyfleu’r neges i dimau amlddisgyblaethol fel y gellir cyfeirio pobl at bresgripsiynu cymdeithasol ag y gallant fanteisio arno.

Argymhellwyd y dylai’r trydydd sector weithio mwy gyda phartneriaid ym maes iechyd ac addysg. Mae angen i ni hefyd fod yn gweithio mwy gyda meddygon teulu/gofal sylfaenol, tra dylid ychwanegu rhagnodi cymdeithasol at yr archwiliad iechyd blynyddol. Mae angen i feddygon teulu weld manteision presgripsiynu cymdeithasol i bobl ag anabledd dysgu fel dewis amgen posibl i feddyginiaeth mewn rhai achosion, er enghraifft os yw rhywun yn isel ei ysbryd oherwydd unigrwydd neu arwahanrwydd cymdeithasol.

Gallai’r grŵp weld potensial rôl y cyfeiriwr cymunedol, sy’n cael ei gyflogi yn y trydydd sector, wrth gefnogi pobl i fynd i ddigwyddiadau.

Roedd pobl yn teimlo bod angen i gronfa ddata DEWIS fod yn haws i’w defnyddio ac mae angen i bob un ohonom fod yn defnyddio’r un ‘iaith’ a thermau.

——————————————————————————————————————————-

Gellir dod o hyd i’r holl gyflwyniadau ac adnoddau o’n digwyddiad rhwydweithio ar ein gwefan: https://www.ldw.org.uk/event/connections-cymru-social-prescribing/

Gallwch ddarganfod yma am Ysgol Ymchwil Presgripsiynu Cymdeithasol Cymru.

Ymunwch â’n rhwydwaith Connections Cymru

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i ymuno â’r rhwydwaith, yma.