Rydyn ni wedi gweithio gyda Marie Curie ar nifer o ddogfennau i’w cefnogi i gynnwys pobl gydag anghenion gwahanol yn eu prosiect Cynnwys Cymunedau Amrywiol mewn Gofal Diwedd Oes. Dywedodd Monica:

“Rydyn ni wedi gweithio gyda Hawdd ei Ddeall Cymru i gynhyrchu amrywiaeth o ddogfennau Hawdd ei Ddeall ar gyfer ein prosiect yn cynnwys pobl gydag anableddau dysgu. Roedd y tîm bob amser yn gynorthwyol ac yn ymatebol. Mae eu gwasanaeth wedi ein helpu i sicrhau bod ein cyfathrebiadau yn gynhwysol i’r bobl oedd yn rhan o’n prosiect ac mae’r deunyddiau maen nhw’n eu cynhyrchu wedi derbyn adborth gadarnhaol gan nifer o’n haelodau.”

Monica Reardon
Rheolwraig Rhaglen Adrannol
Cymru a De Lloegr
Marie Curie