Anabledd Cymru – Maniffesto Pobl Anabl Hawdd ei Ddeall 2026–2031
Rhagfyr 2025 | Maniffesto i bobl anabl yng Nghymru.
Roeddem yn falch o weithio gydag Anabledd Cymru i greu fersiwn hawdd ei ddeall o’u maniffesto newydd, O Prin yn Goroesi I Ffynnu Go Iawn
Mae’r ddogfen hawdd ei ddeall yma yn rhannu’r hyn a ddywedodd pobl anabl a’u sefydliadau bod angen newid yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf.
Mae’r maniffesto yn dwyn ynghyd lleisiau pobl anabl o bob cwr o Gymru. Siaradodd pobl am eu hawliau, eu hannibyniaeth, a’r rhwystrau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd. Roedd eu profiadau a’u syniadau yn siapio’r ddogfen derfynol.
Mae’r fersiwn hawdd ei ddeall yn esbonio’r pum gofyniad allweddol sydd gan bobl anabl i bleidiau gwleidyddol cyn tymor nesaf y Senedd. Mae’n nodi’r hyn y mae pobl anabl eisiau ei weld yn digwydd i wella cydraddoldeb, cryfhau hawliau, a sicrhau bod pobl yn gallu byw bywydau llawn, annibynnol ac ystyrlon. Mae’r maniffesto yn canolbwyntio ar hawliau cyfreithiol, arweinyddiaeth, byw’n annibynnol, a’r newidiadau sydd eu hangen i’r system les.
Mae’r gwaith yn cyflwyno gweledigaeth glir a gobeithiol, ar gyfer Cymru decach.
Fe wnaethom hefyd fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r adroddiad. Mae’r ddwy fersiwn yn hygyrch yn ddigidol ar gyfer darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol.
Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i gael y PDF hygyrch o’r maniffesto hawdd ei ddeall.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Anabledd Cymru yma.
Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.
Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.
>
>