Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Ein Cynllun Cydraddoldeb – Hawdd ei Ddeall

Hydref 2023 | Cynllun Cydraddoldeb gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Gofynnodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u Cynllun Cydraddoldeb.

Mae’r cynllun yn sôn am yr hyn y byddant yn ei wneud i sicrhau bod pobl sy’n defnyddio eu gwasanaeth ac yn gweithio iddynt yn cael eu trin yn deg.

Mae’r cynllun yn egluro eu nodau a’r hyn y maent yn ei wneud i sicrhau eu bod yn eu cyflawni.

Fe wnaethon ni hefyd fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r cynllun. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i weld PDF hygyrch o’r cynllun.

Gallwch ymweld â gwefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am fwy o wybodaethou.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.

Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.

Gan Hawdd ei Ddeall Cymru | Easy Read Wales.