Llywodraeth Cymru – Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru – Hawdd ei Ddeall

Tachwedd 2023 | Digartrefedd – Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwybod beth yw eich barn chi.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u hymgynghoriad. Maen nhw eisiau gwneud newidiadau i bolisi a’r gyfraith ynglŷn â digartrefedd.

Maen nhw eisiau gwneud mwy i atal digartrefedd ac i helpu pobl yn gynnar. Maen nhw wedi ysgrifennu am yr hyn maen nhw am ei newid a sut y byddan nhw’n gwneud y newidiadau.

Mae’r arolwg ar ddiwedd y llyfryn yn gofyn beth yw eich barn am gynlluniau Llywodraeth Cymru. Gallwch lenwi’r arolwg erbyn 16 Ionawr 2024 i ddweud wrth Lywodraeth Cymru beth yw eich barn.

Gwnaethom hefyd fersiwn Saesneg Hawdd ei Ddeall o’r llyfryn. Mae’r ddau yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i weld PDF hygyrch o’r llyfryn.

Gallwch ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru ar gyfer yr arolwg i’w llenwi a mwy o wybodaeth.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.

Gallwch weld ein holl waith diweddar yma.

Gan Hawdd ei Ddeall Cymru | Easy Read Wales.