Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – Newid Gwasanaethau Orthopedig ar gyfer y Dyfodol – Hawdd ei Ddeall

Mawrth 2023 |  Gwasanaethau Orthopedig  – cynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Fe ofynnodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ni wneud dogfen Hawdd ei Deall yn esbonio eu cynlluniau ar gyfer newidiadau i wasanaethau orthopedig i bobl sy’n byw yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae gwasanaethau orthopedig yn darparu triniaeth a llawdriniaethau i bobl sydd â phroblemau gyda’u hesgyrn a chymalau.

Mae’r ddogfen yn ymdrin â’r hyn maen nhw’n bwriadu ei newid fel nad yw pobl yn  gorfod aros cyhyd am driniaeth.  Mae ffurflen ymateb y  gallwch ei llenwi erbyn 14 Ebrill 2023 hefyd  i ddweud wrthyn nhw beth yw eich barn chi am eu cynlluniau.

Fe wnaethon ni hefyd fersiwn Cymraeg Hawdd ei Ddeall o’r canllaw a’r ffurflen ymateb.  Mae’r cyfan yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Gwasgwch y botwm lawrlwytho coch i weld a chadw’r canllaw.

Gallwch weld y ffurflen ymateb i’w llenwi yma.

Gallwch ymweld â gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i gael rhagor o wybodaeth a gwahanol fformatau.

Cysylltwch â ni os ydych chi eisiau gwybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.