Gofalwyr Cymru – Sut i wneud cwyn am Wasanaethau Gofal – Hawdd ei Ddeall

Ebrill 2023 | Sut i wneud cwyn am wasanaethau gofal Cymru.

Gofynnodd Gofalwyr Cymru i ni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u canllaw i wneud cwyn am wasanaethau gofal. Canllaw ydy hwn i’ch helpu i wneud cwyn am wasanaethau gofal y mae eich awdurdod lleol, Gwasanaethau Cymdeithasol, y GIG neu gartref gofal yn eu darparu.

Efallai y byddwch am wneud cwyn os nad ydych chi, neu berson rydych chi’n ei gefnogi, yn hapus gyda’r gwasanaeth rydych yn ei gael. Mae’r canllaw yn dweud wrthych chi beth ydy eich opsiynau a lle i fynd am help.

Fe wnaethon ni fersiwn Cymraeg Hawdd ei Ddeall hefyd o’r canllaw. Mae’r ddau ganllaw ar gael yn ddigidol ar gyfer darllenwyr sgrîn a thechnoleg gynorthwyol arall.

Gwasgwch y botwm lawrlwytho coch i weld a chadw’r canllaw.

Gallwch fynd i wefan Gofalwyr Cymru am ragor o wybodaeth.

Cysylltwch â ni os ydych chi eisiau gwybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethaus: easyread@ldw.org.uk.