Archwilio’r defnydd o dechnoleg i gael mynediad i ofal iechyd  

A person speaks to a doctor via a video call

Ymunwch â ni fore Iau 5 Mai ar gyfer cyfarfod  Rhwydwaith Cymuned Arfer Technoleg wedi’i Bersonoli Cymru Gyfan.

Mae cynnydd yn yr angen i ddefnyddio technoleg ar gyfer cael mynediad i ofal iechyd.

Mae sawl dull newydd o gael mynediad i ofal iechyd ar-lein nawr. Mae meddygfeydd yn dechrau defnyddio gwasanaethau fel eConsult, archebu ar-lein, presgripsiwn rheolaidd  ac mae ymgynhoriadau’n cael eu cynnal ar fideo neu drwy alwad ffôn. Hefyd mae pobl yn cael eu hannog i ffonio GIG 111 am ymgynghoriad, ac mewn rhai ardaloedd mae’n rhaid i chi ffonio cyn mynd i adrannau Damweiniau a Brys.

Mae cynnydd hefyd yn y defnydd o apiau iechyd i helpu pobl gyda iechyd a llesiant cyffredinol, telefeddyginiaeth a rheoli iechyd.

Gyda’r newidiadau yma, a rhagor eto i ddod, rydym eisiau edrych ar beth mae hyn yn ei olygu i bobl gydag anabledd dysgu.

Gwyddom bod llawer o bobl gydag anabledd dysgu wedi eu heithrio yn ddigidol a bod pobl gydag anabledd dysgu yn dioddef anghyfartaledd iechyd.

Beth fydd y newid i gael mynediad i ofal iechyd drwy ddefnyddio technoleg ac ar-lein yn ei wneud i’r anghyfartaleddau yma a beth allwn ni ei wneud i sicrhau bod pobl gydag anabledd dysgu yn cael y gorau o wasanaethau iechyd?

Yn y cyfarfod hwn o’r Rhwydwaith Cymuned Arfer Technoleg wedi’i Bersonoli Cymru Gyfan fe fydd Joanna Dundon o’r Gwasanaethau Digidol GIG ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd yn ymuno  gyda ni. Fe fydd Joanna yn siarad am yr Ap GIG Cymru newydd. Fe fydd yr Ap yn rhoi mynediad i wasanaethau iechyd a gofal i bobl yng Nghyymru drwy eu ffonau deallaus a’u tabledi..

Yn y cyfarfod fe fyddwn yn trafod defnydd gwasanaethau digidol o’r fath a’r rhwystrau a’r cyfleoedd y gallant eu codi i bobl gydag anabledd dysgu.

Dewch i ymuno yn y drafodaeth. Mae croeso i bawb.