Comisiynu ar gyfer bywyd da: yr effaith 5 mlynedd yn ddiweddarach

Ym mis Mawrth 2019, cyhoeddodd y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol ganllaw, “Comisiynu llety a chymorth ar gyfer bywyd da i bobl ag anabledd dysgu.”

Bum mlynedd yn ddiweddarach rydym am archwilio;

  • a yw’r arweiniad wedi helpu?
  • a yw wedi ein symud ymlaen?

Ymunwch â ni i drafod effaith y canllawiau ac i ble rydym yn mynd o fan hyn yn eich rhanbarth chi yng Ngogledd Cymru.

Cyn i ni gael y sgwrs hon yn eich ardal, rydym yn gofyn i chi gwblhau arolwg am y canllawiau. Bydd canlyniadau’r arolwg hwn yn cael eu rhannu mewn digwyddiad ar-lein ddydd Mawrth 17 Medi o 2:00pm – 4:00pm. Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y digwyddiad wyneb yn wyneb, yng Nghyffordd Llandudno isod, byddwn yn eich cofrestru’n awtomatig ar gyfer sesiwn canlyniadau’r arolwg ar-lein ar 17 Medi.

Dyddiad: Dydd Mercher 2 Hydref 2024

Amseroedd: 1:00 pm i 4:00 pm

Lleoliad: Canolfan Fusnes Conwy, Cyffordd Llandudno

 

Cliciwch yma i newid i ddigwyddiad De Cymru