Ymunwch gyda ni ar ddydd Iau 12 Awst i ymuno gyda sgyrsiau a thrafodaethau ar sut i adeiladu sgiliau a hyder staff cefnogi er mwyn iddyn nhw allu helpu pobl gydag anabledd dysgu i ddefnyddio technoleg yn eu bywydau.

Mae nifer o ffyrdd y gall pobl gydag anableddau dysgu ddefnyddio technoleg i gyfathrebu, cynyddu eu hannibyniaeth a byw eu bywydau yn y byd modern.

Mae defnyddio technoleg mewn bywydau o ddydd i ddydd wedi symud ymlaen o fod yn foethusrwydd neu ychwanegiad i fod yn rhan hanfodol o fywyd modern.

Gall gweithwyr cefnogi chwarae rhan allweddol mewn galluogi pobl i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd hyn drwy

  • darganfod beth mae pobl eisiau mewn bywyd a pha dechnoleg sydd yn gallu helpu
  • helpu pobl i gael y technoleg cywir
  • cefnogi pobl i ymdopi gyda thechnoleg newydd yn cynnwys dysgu sgiliau newydd iddyn nhw
  • goresgyn rhwystrau a chymryd ymagwedd positif tuag at risg.

Mae’n hanfodol bod gwasanaethau cefnogi a gweithwyr cefnogi heddiw yn fedrus ac yn hyderus  i ymgorffori technoleg yn y gefnogaeth maen nhw’n ei ddarparu.

Ymunwch gyda ni i glywed sut mae amrywiol gyrff ar draws Cymru yn cefnogi datblygiad ac ymarfer staff fel bod technoleg yn dod yn rhan beunyddiol derbyniol o fywydau a chefnogaeth pobl gydag anableddau.

Mae siaradwyr yn cynnwys

  • Emma Nichols a Vince Scaif, Hft
  • Sorin Annuar , Mirus – darparydd cefnogaeth
  • Aaron Edwards, Rhwydwaith Arloesi Dysgu Technoleg Cynorthwyol