Mae Hijinx, Disability Arts Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i ddynodi’r problemau a wynebir gan bobl ag anabledd dysgu a rhai niwrowahanol sydd o gymunedau sy’n dioddef hiliaeth, wrth gysylltu neu gymryd rhan yn y celfyddydau.

Rydym yn cynnal 3 sesiwn zoom am ddim i edrych ar y problemau yma. Gallwch ymuno â ni am 1,2 neu’r tair sesiwn fer yma. Mae pob sesiwn yn cynnwys cyflwyniadau a chyfle i ofyn cwestiynau a bod yn rhan o’r drafodaeth.

A man wearing a Hijinx logo t-shirt

Sesiwn 3 – Beth sydd angen i ni ei newid?

Dydd Iau 19 Mai 2022

10:00 am -11:30 am

Yn y drydedd sesiwn byddwn yn clywed gan ddetholiad anhygoel o artistiaid a pherfformwyr ag anabledd dysgu a niwrowahanol gan gynnwys Krystal Lowe.

Byddant yn rhannu eu profiad personol eu hunain ac yn ymuno â thrafodaeth am y pethau y mae angen i’r sector celfyddydol eu gwneud i fod yn gynhwysol a hygyrch i bawb.

Cliciwch yma i archebu eich lle yn y sesiwn hon