Mae Hijinx, Disability Arts Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i ddynodi’r problemau a wynebir gan bobl ag anabledd dysgu a rhai niwrowahanol sydd o gymunedau sy’n dioddef hiliaeth, wrth gysylltu neu gymryd rhan yn y celfyddydau.

Rydym yn cynnal 3 sesiwn zoom am ddim i edrych ar y problemau yma. Gallwch ymuno â ni am 1,2 neu’r tair sesiwn fer yma. Mae pob sesiwn yn cynnwys cyflwyniadau a chyfle i ofyn cwestiynau a bod yn rhan o’r drafodaeth.

A man on stage sings into a microphone

Sesiwn 2 -Beth sydd gan rieni i’w ddweud?

Dydd Mercher 18 Mai 2022

2:00 pm – 3:00 pm

Yn ein hail sesiwn byddwn yn clywed gan ddau eiriolwr cymunedol, a rhieni pobl ifanc ag anabledd dysgu a niwrowahanol, am eu profiadau yn cael cefnogaeth a’u taith yn sefydlu eu sefydliadau eu hunain i greu newid.

Bydd Yvonne Odukwe, Autism’s Hidden Voices (Casnewydd) yn rhannu eu profiadau fel rhiant ac eiriolwr cymunedol.

Bydd Izzy Rabey yn ymuno â nhw, a fydd yn sôn am y gwaith y mae hi’n ei wneud gyda Autism’s Hidden Voices.

Cliciwch yma i archebu eich lle yn y sesiwn hon