
Fe fydd y cwrs yma yn eich helpu i ddeall eich rôl mewn cefnogi oedolion gyda’u pherthnasoedd a’u rhywioldeb. Fe fyddwch yn dysgu sut i gefnogi pobl yn well i arwain bywydau hapus a bodlon o fewn cyd-destun y ddeddfwriaeth gyfredol a’r angen i sicrhau diogelwch corfforol ac emosiynol.
Mae’r cwrs yn codi ymwybyddiaeth o faterion perthnasoedd personol a rhywioldeb mewn amgylchedd agored a gonest lle mae modd rhannu ac archwilio pryderon.
Mae’r cwrs yn cynnwys
- Pwysigrwydd perthnasoedd
 - Deall ein syniadau a’n barn ein hunain
 - Ein rolau ein hunain mewn cefnogi pobl mewn perthnasoedd
 - Rhywioldeb a pherthnasoedd rhywiol
 - Glanweithdra personol a rhywioldeb
 - Rhyw a’r Gyfraith
 - Materion atal cenhedlu a chynllunio teulu
 
Ar gyfer
Unrhyw un sy’n cefnogi pobl ag anableddau dysgu a hoffai deimlo’n fwy hyderus yn eu rôl pan yn cefnogi rhywun sydd yn chwilio am, yn cychwyn neu eisoes mewn perthynas bersonol.
        
        
>
                      
>