Young woman working in an office

Dim ond 6% o bobl gydga anabledd dysgu ac 16% o bobl gydag awtistiaeth sydd mewn gwaith cyflogedig yn y DU. Rydyn ni eisiau newid hyn.

Ers Mehefin 2016, mae Engage to Change wedi bod yn gweithio ar draws Cymru gyfan i gefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth i gael lleoliadau gwaith cyflogedig yn para 6 i 12 mis. Fel pawb arall, rydyn ni’n gorfod gweithio’n wahanol yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Ymunwch gyda ni i dderbyn y newyddion diweddaraf am sut mae’r prosiect Engage to Change yn gweithio yn ystod y cyfnod cloi a sut y gallwch barhau i gymryd rhan.

Yn ystod y sesiwn 1 awr yma fe fyddwch yn clywed oddi wrth yr asianaethau cyflogaeth gyda chefnogaeth sydd yn gweithio ar y prosiect, Llysgennad Arweiniol y prosiect a hefyd cewch gyfle i ofyn cwestiynau i staff allweddol y prosiect.

Oes gennych chi anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth?

Efallai y bydd Engage to Change yn gallu eich cefnogi  i ddysgu sgiliau newydd a chael profiad yn y gweithle, y cyfan gyda’r nod o symud i waith cyflogedig  .

Ydych chi’n cefnogi pobl gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth?

Gall y prosiect fod o fudd i’r bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw drwy gyflogaeth gyda chefnogaeth, o ragor o annibyniaeth ariannol, i gynnydd mewn hyder, a chylch cymdeithasol ehangach.

Lleoliad: Ar-lein drwy Zoom.

Dyddiad: 18  Mehefin 2020

Amser: 10:00 – 11:00

Mae’r prosiect Engage to Change yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth rhwng Anabledd Dysgu Cymru, Agoriad Cyf, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Prifysgol Caerdydd, Cyflogaeth gyda Chefnogaeth ELITE ac mewn cydweithrediad gyda Engage to Change DFN Project SEARCH. Cyllidir y prosiect gan Gronfa Gymuned y Loteri Cenedlaethol mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru drwy’r rhaglen Getting Ahead 2.