Beth sydd wedi bod yn digwydd i bobl gydag anableddau dysgu yng Nghymru ers Mawrth 2020?

Woman with a learning disability wearing a mask talking to a support worker

Mae’r pandemig COVID-19 wedi stopio a newid llawer o’r pethau rydyn ni’n eu gwneud, ein perthnasoedd a’r cymorth mae pobl yn ei gael.

Mae’r newidiadau yma wedi bod yn anodd i bawb, ond mae pob profiad yn wahanol.

Mae pobl gydag anableddau dysgu wedi cael eu profiadau unigryw eu hunain sydd yn rhaid eu deall a rhaid gwrando arnyn nhw er mwyn inni allu cynllunio i wneud pethau yn well yn y dyfodol.

Mae’r digwyddiad yma yn gyntaf o nifer i amlygu’r effaith mae’r pandemig wedi ei gael ar bobl gydag anableddau dysgu yng Ngymru. Fe fydd yn rhannu’r hyn rydyn ni wedi ei ddysgu hyd yn hyn o’n hymchwil. Fe fyddwn ni’n rhannu’r hyn rydyn ni wedi ei ddysgu oddi wrth y bobl gydag anableddau dysgu yng Nghymru sydd wedi cymryd rhan yn ein hastudiaeth.

Fe fyddwn ni’n esbonio’r prif bethau rydyn ni wedi eu dysgu a siarad am beth sydd wedi digwydd i bobl. Fe fyddwn ni hefyd yn trafod beth rhagor sydd angen inni ei wybod i ddeall yn well beth sydd wedi digwydd, a beth sydd angen digwydd i sicrhau bod gan bobl gydag anableddau dysgu lais wrth wneud pethau’n well yn y dyfodol.

Fe fyddwn ni’n cynnal digwyddiadau eraill yn y misoedd nesaf i rannu rhagor o’r hyn rydyn ni wedi ei ddysgu o’r astudiaeth ac i drafod beth mae hyn yn ei olygu i wasanaethau a pholisi nawr ac yn y dyfodol.

Fe fydd y digwyddiad yn:

  1. Esbonio beth ydy’r Astudiaeth Coronafeirws ac Anableddau Dysgu.
  2. Rhannu a thrafod beth rydyn ni wedi ei ddarganfod yng Nghymru hyd yn hyn .
  3. Darganfod beth yn rhagor y dylen ni ei wybod am sut mae’r pandemig wedi effeithio ar bobl gydag anableddau dysgu yng Nghymru.
  4. Trafod beth mae’r canfyddiadua yn ei olygu i gynllunio yn y dyfodol

Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan y cyrff sydd wedi cymryd rhan mewn rhedeg yr Astudiaeth Coronafeirws ac Anableddau Dysgu yng Nghymru. Fe fydd Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn gwneud yr astudiaeth gyda chymorth gan Anabledd Dysgu Cymru,  Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.

Pwy ddylai fynychu

Unrhyw un sydd â diddordeb mewn deall profiadau cyfnod clo pobl gydag anableddau dysgu yng Nghymru a beth mae’r rhain yn ei olgyu i’r dyfodol

Mwy o gwybodaeth

Mae gwybodaeth am y digwyddiad yma ar gael drwy e-bostio un o’r bobl ganlynol:

stuart.todd@southwales.ac.uk

Cath.lewis@ldw.org.uk

Gwen@allwalesforum.org.uk

Tracey@allwalespeople1st.co.uk

Dyddiad, amser a lleoliad

Ar-lein trwy Zoom

Dydd Llun 17 Mai 2021

1:00 yp tan 2:30 yp

Os oes gennych  anabledd dysgu ac os hoffech gael unrhyw help neu gefnogaeth i archebu lle ffoniwch Tracey ar 07956082211